Newyddion

Dirwy o filoedd o bunnau i ddau ddyn am fynd yn groes i reoliadau tai

Wedi ei bostio ar Wednesday 14th November 2018

Cafodd dau ddyn ddirwy o rai miloedd o bunnau ar ôl iddyn nhw gael eu barnu'n euog o gyflawni troseddau mewn cysylltiad ag eiddo rhent yng Nghasnewydd.

Cyflwynwyd achos Abdul Kahim, Queens Hill Drive, Casnewydd a Muhammud Rubel Ahmed, Wellington Road, Northampton gerbron Llys Ynadon Cwmbrân ar 1 Hydref pan y’u barnwyd yn euog o gyflawni troseddau mewn cysylltiad â 24 Caroline Street, Casnewydd.

Erlynwyd y dynion gan swyddogion iechyd yr amgylchedd Cyngor Dinas Casnewydd o ganlyniad i ymchwiliad yn dilyn atgyfeiriad a wnaed gan Rhentu Doeth Cymru.

Mae’n ofynnol i’r cyngor drwyddedu Tai Amlfeddiannaeth (unrhyw dŷ sydd â thri o denantiaid neu fwy nad ydynt yn deulu yn byw ynddo) a gorfodi'r rheoliadau er mwyn sicrhau bod Tai Amlfeddiannaeth yn cynnwys y cyfleusterau priodol a’u bod yn cael eu cynnal a’u cadw er mwyn cynnig cartrefi diogel.  

Mae Tai Amlfeddiannaeth yn cynnwys eiddo megis tai a rennir, fflatiau un ystafell a rhai adeiladau sydd wedi cael eu troi’n fflatiau.

Clywodd y llys y cafodd yr eiddo ei archwilio ar 1 Chwefror eleni.  Roedd tri o ddynion nad ydynt yn perthyn i'w gilydd yn byw ynddo.

Yn ôl y swyddogion roedd yr eiddo mewn cyflwr gwael iawn ac yn cynnwys sawl achos o fynd yn groes i nifer o Reoliadau Tai Amlfeddiannaeth (Cymru) 2006 megis offer trydan a allai fod wedi achosi tân, dim system larwm tân, llawr uchaf mor anniogel fel y gallai person syrthio trwyddo a diffyg canllaw ar y grisiau.

Yn ogystal, gofynnodd swyddogion am weld dogfennau gan Mr Ahmed a Mr Kahim gan gynnwys llyfrau taliadau rhent, tystysgrif nwy, adroddiad ar gyflwr gosodiad trydanol, cytundebau tenantiaeth ac ati dan Adran 235 Deddf Tai 2004.  Ni ddaeth y dogfennau dan sylw i law.

Cyflwynwyd dirwy o £2,000 yr un i Muhammud Rubel Ahmed ac Abdul Kahim am weithredu Tŷ Amlfeddiannaeth didrwydded; £9,000 am sawl achos o fynd yn groes i Reoliadau Tai Amlfeddiannaeth (Cymru) 2006; £3,000 am fethu â chyflwyno dogfennau ac fe'u gorchmynwyd i dalu costau gwerth £811.63 a gordal dioddefwr o £170 sef cyfanswm o £14, 981.63 yr un. Cyflwynwyd dirwy o £2,000 yr un i Muhammud Rubel Ahmed ac Abdul Kahim am weithredu Tŷ Amlfeddiannaeth didrwydded; £9,000 am sawl achos o fynd yn groes i Reoliadau Tai Amlfeddiannaeth (Cymru) 2006; £3,000 am fethu â chyflwyno dogfennau ac fe'u gorchmynwyd i dalu costau gwerth £811.63 a gordal dioddefwr o £170 sef cyfanswm o £14, 981.63 yr un.

Dywedodd y Cynghorydd Ray Truman, yr Aelod Cabinet dros Drwyddedu a Rheoleiddio yng Nghyngor Dinas Casnewydd: “Mae gan denantiaid yr hawl i fyw mewn llety sy'n ddiogel. Roedd y diffyg gweithredu ar ran yr unigolion hyn yn gwbl annerbyniol.  Mae Tai Amlfeddiannaeth yn cael eu trwyddedu a'u rheoleiddio er mwyn sicrhau na all landlordiaid gwael danseilio ymdrechion landlordiaid cyfrifol sy’n cynnig cartrefi o safon.  Mae gan landlordiaid gyfrifoldeb ac ni fydd y cyngor yn oedi rhag rhoi mesurau ar waith yn erbyn y rheiny sy’n rhoi tenantiaid mewn perygl. 

Gellir rhoi gwybod am unrhyw Dai Amlfeddiannaeth didrwydded neu dai sydd mewn cyflwr gwael drwy’r Llinell Gymorth Landlordiaid Gwael: 01633 235233.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.