Newyddion

Cadwyn tafarnau yn cael dirwy o £152,000 am fethiannau hylendid

Wedi ei bostio ar Monday 26th November 2018
Tredegar Arms dirty chiller floor

Swyddogion iechyd yr amgylchedd wedi gweld safonau glendid gwael yn y safle pan ymwelon nhw, yn cynnwys oergelloedd, ffyrnau a byrddau torri brwnt.

Mae cadwyn tafarnau a thai bwyta wedi derbyn dirwy o dros £152,000 am gadw ceginau brwnt a storio bwyd heibio i’w ddyddiad defnyddio yn ei safle yng Nghasnewydd.

Tîm iechyd yr Amgylchedd Cyngor Dinas Casnewydd ddaeth â’r erlyniad yn erbyn Greene King Retailing Limited, wedi iddyn nhw ymweld â’r safle ar ôl derbyn cwyn gan aelod o’r cyhoedd.

Gwelodd y swyddog nifer o fethiannau hylendid ar ddau ymweliad â Tredegar Arms y cwmni ar Heol Caerffili, Casnewydd at 17 a 20 Gorffennaf 2017.

Plediodd Greene King Retailing Limited yn euog i saith cyhuddiad o fethu â chadw safle bwyd ac offer yn lân, ac wedi eu diheintio lle'r oedd angen, a methu â gweithredu a chynnal gweithdrefnau diogelwch bwyd.

Cynhaliwyd yr achos yn Llys Ynadon Casnewydd ar ddydd Gwener 9 Tachwedd eleni.

Clywodd y llys bod swyddogion iechyd yr amgylchedd wedi gweld safonau glendid gwael yn y safle pan ymwelon nhw, yn cynnwys oergelloedd, ffyrnau a byrddau torri brwnt.

Daethon nhw hefyd o hyd i fwyd oedd yn hŷn na’i ddyddiad defnyddio, yn enwedig pecyn o selsig oedd dros bythefnos yn hŷn na’r dyddiad defnyddio a chyw iâr oedd yn dadmer ar dymheredd ystafell.

Datgelwyd rhagor o broblemau mewn ymweliad dilynol dridiau yn ddiweddarach, yn cynnwys oergelloedd a rhewgelloedd ddim yn gweithio a chyw iâr oedd wedi ei goginio’n rhannol yn cael ei gadw ar dymheredd fyddai’n galluogi bacteria i dyfu.

Plediodd y cwmni’n euog i saith cyhuddiad a chytuno i dalu costau cyfreithiol llawn y cyngor, sef £13,000.

Ymddiheurodd y cwmni’n ddiamod a derbyn bod safonau – yn y gegin yn enwedig – yn anfoddhaol.

Clywodd y llys bod y cwmni wedi gweithredu ymhob ffordd resymol ers hynny i wella’r sefyllfa a bod ganddo Raddfa Hylendid Bwyd o 4 erbyn hyn, ers mynd i’r afael â’r problemau a ddaeth i’r golwg yn 2017.

Dywedodd y Cynghorydd Ray Truman, yr Aelod Cabinet dros Drwyddedu a Rheoleiddio: “Roedd swyddogion adran Iechyd yr Amgylchedd yn ofidus ofnadwy ar ôl gweld tafarn cwmni mor fawr mewn cyflwr o’r fath ac roedd briodol bod y cyngor ym mynd â’r cwmni i’r llys i atgyfnerthu’r neges bod rhaid ymdrin o ddifrif â hylendid bwyd.

“Gallai’r amodau yn y dafarn fod wedi gwneud cwsmeriaid yn ddifrifol sâl. Rwyf yn ddiolchgar i’r aelod o’r cyhoedd a gysylltodd â’r cyngor ac am waith caled y swyddogion yn dod â’r achos i’r llys.”

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.