Newyddion

Cynnig i roi pen ar grantiau i gynghorau cymunedol

Wedi ei bostio ar Friday 2nd November 2018

Yn dilyn adolygiad, cynigiwyd rhoi pen ar y grant mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ei roi i 14 cyngor cymunedol y ddinas.

Mae'r grant yn un hanesyddol oedd fod i gael ei ddefnyddio i gefnogi gwasanaethau "cyffredin" trwy gytundeb gyda chyngor y ddinas.

Mewn gwirionedd, mae wedi bod yn grant "bloc" o gyllideb cyngor y ddinas wedi'u' rannu rhwng y cynghorau cymunedau yn hytrach na chael ei ddefnyddio i dalu am wasanaethau. Er mae pob trethdalwr yn cyfrannu at wariant y Cyngor, nid yw'r cynghorau cymunedol yn talu am bopeth ym mhob ardal yn y ddinas.

Mae'r ffordd mae grant o ychydig mwy na £131,000 yn cael ei ddosbarth wedi achosi pryder ymysg y cynghorau cymunedol ers cryn amser ond nid ydynt wedi gallu cytuno ar ddatrysiad.

Cyfran Cyngor Cymunedol Tŷ-du oedd £64,500, cyfran Llangadwaladr Trefesgob oedd £16,050 a chyfran Graig oedd £14,037 gyda'r 11 cyngor cymunedol eraill yn derbyn llai na £10,000 gan gynnwys tri'n derbyn llai na £2,000.

Archwiliwyd aelodau o un o bwyllgorau craffu'r Cyngor y mater clustnodi gan wneud argymhellion o ran newid a arweiniwyd at adolygiad gan swyddogion. Fodd bynnag, yn ôl yr adolygiad nid oedd y grant yn cael ei ddefnyddio at ei ddiben gwreiddiol, a dyma'r rheswm y mae'r cynnig bellach yn cael ei ystyried.

Gall cynghorau cymunedol godi incwm yn benodol ar gyfer eu hardal yn ogystal â'r dreth gyngor a delir gan bob cartref yn y ddinas. Fel y gall cyngor y ddinas ddewis codi hyn er mwyn darparu gwasanaethau.

I'r rhan fwyaf o gynghorau cymunedol, byddai'r cynnydd ym mhraesept y Cyngor i bontio'r bwlch wedi'i achosi gan golli'r grant yn llai na £10 y flwyddyn y trigolyn.

Bydd y Cynghorydd David Mayer, aelod cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros y Gymuned ac Adnoddau, yn penderfynu ar y cynnig ar ôl ymgynghori â'r holl aelodau.

Mae pob cyngor cymunedol wedi cael gwybod am y cynnig ac os gwneir penderfyniad i roi pen ar y grant, bydd yn digwydd o fis Ebrill nesaf ymlaen.

Llefarydd Cyngor Dinas Casnewydd

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.