Cynllun ynni gwyrdd i Gaerllion
Wedi ei bostio ar Monday 26th November 2018
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn falch o gyhoeddi grant cymunedol newydd o ganlyniad i ddatblygiad ynni gwyrdd.
Wedi’i gymeradwyo’n swyddogol ychydig o flynyddoedd yn ôl, mae Lightsource SPV 209 Ltd wedi creu gweithrediad ynni solar yn ward Caerllion sydd bellach ar waith yn llwyddiannus.
Mae’r gweithredwr wedi nodi bod grant i gael ei ddefnyddio er budd cymuned Caerllion ac mae cynllun bellach wedi’i ddatblygu i gefnogi ystod eang o anghenion/dewisiadau. Yn unol â’r gweithred, gall swm y grant sydd ar gael amrywio yn ystod ei gyfnod cyntaf o 20 mlynedd.
Mae’r cynllun yn cael ei redeg trwy GAVO, gyda Phanel Grantiau Cymuned Caerllion. Bydd y grantiau’n amrywio o £250 - £2,000.
Bydd y rownd gyntaf yn agor ddydd Llun 26 Tachwedd 2018 gyda'r dyddiad cau ar ddydd Gwener 1 Mawrth 2019. Rhoddir gwybod i ymgeiswyr llwyddiannus yn fuan ar ôl hynny. Hysbysebir rowndiau dilynol yn dibynnu ar a oes arian ar gael.
Mae nodiadau canllawiau/meini prawf a ffurflenni cais ar gael gan [email protected]