Ardal chwarae Rogerstone i ail-agor ar 8 Mai
Wedi ei bostio ar Friday 4th May 2018
Bydd ardal gemau aml-ddefnydd (MUGA) wrth ymyl Canolfan Rivermead yn Rogerstone yn ail-agor ddydd Mawrth 8 Mai.
Gwnaeth y gwaith i uwchraddio'r cyfleuster ac ynysu rhag sain gymryd yn hirach na'r disgwyl ac mae'r cyngor yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.
Cynhaliwyd y gwaith yn dilyn cwynion am sŵn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rydym hefyd wedi cyflwyno mwy o reolau i reoleiddio amseroedd defnyddio'r MUGA.