Newyddion

Cymal cyntaf Taith Prydain yn Sir Gâr a Chasnewydd

Wedi ei bostio ar Wednesday 30th May 2018

Bydd Taith Prydain OVO Energy 2018 yn dechrau yn ne Cymru am y tro cyntaf wrth i Sir Gaerfyrddin a Chasnewydd gynnal cymal cyntaf Taith genedlaethol Prydain ddydd Sul, 2 Medi.

Dyma'r tro cyntaf i'r ras ymweld â Sir Gaerfyrddin wrth i'r sir groesawu 120 o feicwyr proffesiynol gorau'r byd fis Medi nesaf ar gyfer dechrau'r ras feicio broffesiynol fwyaf ym Mhrydain.

Cynhaliodd dinas Casnewydd Daith Prydain ddiwethaf yn 2004, ac aeth cymal olaf ras 2017 drwy'r ddinas ar ei ffordd i'r llinell derfyn yng Nghaerdydd.

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, y Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: "Mae cynnal dechrau'r ras broffesiynol eiconig hon a chael chymal cyfan yng Nghymru yn newyddion gwych i'r wlad. Ers cynnal Taith Prydain am y tro cyntaf yn 2010, mae i'r digwyddiad le pwysig yng nghalendr chwaraeon Cymru ac mae'r ras wedi ymweld ag amrywiol leoliadau ledled Cymru bron bob blwyddyn ers hynny, ac rwyf wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi'r digwyddiad.

 "Mae Taith Prydain yn gyfle gwych inni ddangos tirwedd unigryw a phrydferth Cymru i'r byd, yn ogystal â thynnu sylw at ein gallu i gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau mawr. Mae'r digwyddiad yn rhoi cyfle i gefnogwyr beicio weld timau a beicwyr gorau'r byd yn cystadlu ar eu stepen drws, ac mae'r gwylwyr yng Nghymru bob amser wedi rhoi croeso cynnes Cymreig i'r beicwyr ac wedi creu awyrgylch arbennig. Rwy'n gobeithio y bydd pobl o bob cwr o dde Cymru yn dod i gefnogi'r beicwyr wrth iddynt deithio o Sir Gaerfyrddin i Gasnewydd ar ddiwrnod cyntaf y ras ym mis Medi."

Cyhoeddir rhagor o fanylion am Gymal Un, gan gynnwys yr union leoliad y bydd y ras yn dechrau yn Sir Gaerfyrddin, manylion am y llwybr a ble bydd y ras yn gorffen yng Nghasnewydd, yn y lansiad cenedlaethol ddydd Mawrth, 5 Mehefin.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, Aelod Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: "Dyma'r digwyddiad beicio ar y ffordd proffesiynol mwyaf yn y Deyrnas Unedig ac rydym yn falch bod y trefnwyr wedi dewis Sir Gaerfyrddin yn fan cychwyn ar gyfer y ras.

"Fel digwyddiad sy'n cael ei ddarlledu mae hwn yn gyfle gwych i ddangos golygfeydd prydferth ein sir i'r byd. Nid oes amheuaeth na fydd hefyd yn rhoi hwb anferth i'r economi leol gan y bydd miloedd o bobl yn rhan o'r ras ac yn dod i'w gwylio."

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: "Rydym yn gyffrous iawn i fod yn rhan o'r Daith unwaith eto ac rydym yn addo rhoi croeso cynnes iawn i Gasnewydd i'r cystadleuwyr wrth iddynt groesi'r llinell derfyn gyntaf yng nghanol ein dinas.

"Mae gan Gasnewydd dirwedd hynod amrywiol sy'n gweddu i'r dim i ddigwyddiadau megis y Daith - o lwybrau gwastad, trefol i ddringfeydd heriol a disgynfeydd trwy gefn gwlad prydferth - rydym yn sicr y bydd y beicwyr, y cefnogwyr a'r gwylwyr fel ei gilydd yn mwynhau'r cymal a'u hamser yn ein dinas.

Wrth sôn am y cyhoeddiad, dywedodd Mike Bennett, Cyfarwyddwr Ras Taith Prydain OVO Energy: "Rydym wedi bod yn gweithio gyda'n partneriaid yn Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin ers tro i greu'r cynllun hwn ar gyfer y cymal cyntaf ac ymweld â'r ardal am y tro cyntaf, ac rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu cadarnhau'r cynlluniau er mwyn i wylwyr allu dechrau gwneud eu cynlluniau nawr ar gyfer 2 Medi i ymuno â ni ar gyfer ein cymal cyntaf.

"Fel cartref Beicio Cymru a Felodrom Cenedlaethol Cymru, mae'n addas y bydd Taith Prydain OVO Energy yn gorffen ei chymal cyntaf yn 2018 yn y ddinas ac edrychwn ymlaen at weithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd a'i bartneriaid i gynnal y digwyddiad."

Wrth sôn am y cyhoeddiad, dywedodd Nick Smith, Cadeirydd Beicio Cymru: "Mae'n newyddion hollol wych i Gymru ei bod yn gallu cynnal dechrau ras feicio genedlaethol fwyaf Prydain.

"Mae dechrau'r ras gyfan yn Sir Gaerfyrddin yn gweddu'n llwyr i ymrwymiad y sir i feicio, gan ei bod yn gwneud ei gorau glas i fod yn ganolbwynt beicio Cymru yn dilyn adnewyddu Felodrom Caerfyrddin yn ddiweddar, yn ogystal â'r gwaith adeiladu presennol ar y Gylchffordd Gaeedig ym Mhen-bre.

"Bydd gan y bobl leol a'r cefnogwyr yng Nghymru nid yn unig y cyfle i roi anogaeth i'r talent beicio gorau ar eu stepen drws wrth iddynt ddechrau cymal cyntaf y gystadleuaeth yn Sir Gaerfyrddin, ond byddant hefyd yn gallu llongyfarch y beicwyr wrth iddynt groesi'r llinell derfyn yng nghartref Beicio Cymru yn Felodrom Cenedlaethol Cymru yng Nghasnewydd.

Taith Prydain OVO Energy yw prif ddigwyddiad beicio ar y ffordd Beicio Prydain, gan roi cyfle i gefnogwyr beicio weld timau a beicwyr gorau'r byd yn cystadlu ar eu stepen drws. Mae'r daith yn cael ei chynnal rhwng dydd Sul, 2 Medi a dydd Sul, 9 Medi 2018. 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.