Newyddion

Penodi Maer newydd

Wedi ei bostio ar Wednesday 16th May 2018
Councillor Linton Mayor elected 15 May

Y Cynghorydd Malcolm Lintona ei wraig, Mrs Sharon Linton

 

Y Cynghorydd Malcolm Linton yw prif ddinesydd diweddaraf Cyngor Dinas Casnewydd.

Fe’i hanrhydeddwyd yn Faer y ddinas mewn seremoni yn y Ganolfan Ddinesig ar 15 Mai yn dilyn cyfarfod cyffredinol blynyddol y cyngor.

 Y Cyng. Linton yw cynghorydd ward Ringland lle cafodd ei ethol gyntaf yn 2004 ac mae’n gwasanaethu ar y pwyllgor craffu a’r pwyllgor cynllunio.

Ef yw 386fed Maer cofnodedig Dinas Casnewydd.

Ei wraig, Mrs Sharon Linton, yw Maeres newydd Casnewydd ac mae gan y ddau dri o blant, Wayne y mab a’u merched Donna a Kirsty.

Mae'r Cyng. Linton yn Ymddiriedolwr yng Nghlwb Llafur Ringland lle mae hefyd yn helpu gyda dyletswyddau pwyllgor ar y penwythnos.

Dirprwy Faer Casnewydd yw’r Cynghorydd Phil Hourahine a’i wraig Merille yw’r Ddirprwy Faeres.

Mae’r Cynghorydd Hourahine yn cynrychioli ward St Julian ac mae’n llywodraethwr yn Ysgol St Julian ac Ysgol Gynradd Glan Usk.

Bydd y cwpl yn dathlu chwarter canrif o briodas eleni, ac yn edrych ymlaen at gynorthwyo’r Maer a’r Faeres yn ystod eu blwyddyn yn y swydd.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.