Newyddion

Ffair arbenigol ffab yn dychwelyd i Farchnad Casnewydd

Wedi ei bostio ar Thursday 10th May 2018

Bydd Marchnad Casnewydd yn cynnal digwyddiad figan arall, gyda chornel plant am ddim, ddydd Sadwrn 12 Mai.

Mae Sue Thomas yn dod â'r ffair Absolutely Fabulous yn ôl i'r Oriel ar ôl ymweliad llwyddiannus fis diwethaf.

Bydd cynhyrchion bwyd a gofal croen ar gael eto, a'r tro hwn bydd yna thema môr-ladron yng nghornel y plant, lle gallant fenthyg llyfrau, gwneud crefftau a defnyddio creonau figan i liwio mewn.

Hefyd, mae Sax for Fun wedi cynnig chwarae am 11am.

Dywedodd y trefnydd Sue Thomas ei bod am gefnogi busnesau lleol ac y byddai'n ystyried rhoi stondinau am ddim i sefydliadau ac elusennau achub anifeiliaid.

I gael rhagor o wybodaeth am gael stondin cysylltwch â Sue ar 02920 709292.

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn fydd ar gael rhwng 10.30am a 4pm ewch i https://www.facebook.com/events/326700261187079/

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.