Newyddion

Diffodd y goleuadau i nodi Awr Ddaear WWF

Wedi ei bostio ar Thursday 22nd March 2018
Star badge_jpg

Mae'r cyngor yn cefnogi Awr Ddaear byd-eang WWF ac yn ennill gwobr Seren

 

Ddydd Sadwrn, 24 Mawrth, am 8.30pm bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn diffodd goleuadau yn y Ganolfan Ddinesig am awr i nodi Awr Ddaear World Wildlife Fund.

Mae’r cyngor yn ymuno â miliynau o bobl, dinasoedd, cymunedau a thirnodau ledled y byd mewn arddangosiad gweladwy byd-eang yn dangos ymrwymiad i fynd i’r afael â phroblemau amgylcheddol pwysig a diogelu ein planed.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd hefyd yn bwriadu gweithredu drwy wneud #AddewidIrBlaned ar ôl datgan ei gefnogaeth i UK100, rhwydwaith o awdurdodau lleol sy’n canolbwyntio ar roi’r gorau i ddefnyddio tanwydd ffosil erbyn 2050.

Mae cyflogeion hefyd yn cael eu hannog i wneud eu haddewidion eu hunain a newid un peth yn eu bywyd bob dydd a fydd yn helpu i ddiogelu ein planed.

Mae’r cyngor yn cefnogi apêl WWF Cymru's i annog cymunedau a phartneriaid lleol yng Nghasnewydd i wneud #AddewidIrBlaned ac ymuno â’r digwyddiad diffodd goleuadau ar gyfer yr Awr Ddaear dydd Sadwrn.

Dewch i gefnogi’r achos er mwyn sicrhau byd gwell!

I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud addewid ewch i wwf.org.uk/awrddaear

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.