Newyddion

Gwobr Ysbryd Casnewydd

Wedi ei bostio ar Wednesday 28th February 2018
Spirit of Newport Awards presentation 27 feb

Leader Debbie Wilcox, the Mayor Councillor David Fouweather with Liz Johnson and Mike Flynn with their Spirit of Newport awards

 

Bydd tri o bobl o gefndiroedd gwahanol iawn yn derbyn Gwobr Ysbryd Casnewydd, i gydnabod cyfraniad anferthol dinasyddion â chysylltiad â’r ddinas.

Dyma’r tro cyntaf i’r Wobr hon gael ei chyflwyno.  Crëwyd y wobr hon gan Gyngor Dinas Casnewydd i ddangos pa mor bwysig yw hi i’r ddinas gydnabod a gwobrwyo’r bobl sy’n gwneud ein dinas yn gystal un – boed hynny drwy lwyddiant mewn chwaraeon, gwaith elusennol, twf busnesau, y celfyddydau, addysg, neu drwy ddangos dewrder a dycnwch wrth wynebu helbulon.

Mae’n bleser gan y Cyngor gyhoeddi y bydd yr Arweinydd, y Cynghorydd Debbie Wilcox yn cyflwyno tair Gwobr Ysbryd Casnewydd yng nghyfarfod y cyngor llawn ddydd Mawrth, 27 Chwefror.

Ymhlith y tri mae’r cyn-filwr a’r gwr fu’n codi arian ar gyfer cronfa’r pabi ers blynyddoedd, Ron Jones o Fasaleg sy’n gant oed. Derbyniodd BEM am wasanaethau i’r gymuned y llynedd.

Mike Flynn yw rheolwr Clwb Pêl-droed Casnewydd, roddodd ein dinas ar y map pan gyrhaeddodd y tîm y gemau ail-chwarae ym mhedwaredd rownd Cwpan yr FA yn Wembley, a hynny ar ôl iddyn nhw gael gêm gyfartal o un gôl yr un yn erbyn Tottenham Hotspur o’r Uwch-Gynghrair, gerbron y torfeydd mwyaf erioed yn Rodney Parade.

Mae’r nofiwr Paralympaidd Liz Johnson, sy’n hanu o Gasnewydd, wedi ennill medalau aur yn y Gemau Paralympaidd a phencampwriaethau byd y Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol (yr IPC). 

Dechreuodd Liz, a gafodd ei geni â pharlys yr ymennydd, nofio yn dair oed gan syrthio mewn cariad â’r gamp. Yn ddim ond 14 oed cafodd ei dewis i nofio dros Team GB, gan hudo torfeydd gyda’i llwyddiant dros y blynyddoedd, ac ennill y Fedal Efydd yng Ngemau Paralympaidd Llundain 2012.

Dywedodd y Cynghorydd Wilcox: “Mae hon yn wobr fodern, ac mae’n gyfle i bobl Casnewydd enwebu’r bobl sydd wedi dangos i ni sut gall yr agwedd a’r dycnwch cywir gyflawni bron unrhyw beth, waeth beth fo’r amgylchiadau.

“Ni fydd y wobr hon yn cael ei chyflwyno yn rheolaidd – dim ond pan fydd enillydd teilwng sy’n ymgorffori gwerthoedd a phriodweddau Ysbryd Casnewydd yn dod i’r amlwg.

“Rwyf wrth fy modd bod gennym enillwyr teilwng yn Ron Jones, Michael Flynn a Liz Johnson, oll â chysylltiad â Chasnewydd ac wedi profi eu bod yn haeddu’r wobr. Rwy’n eu llongyfarch i gyd am fod y rhai cyntaf i gael eu hanrhydeddu yn y fath fodd gan y ddinas.”

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.