Newyddion

Ffair fwyd dros dro arbenigol ym Marchnad Casnewydd 7 Ebrill

Wedi ei bostio ar Thursday 29th March 2018

Bydd Marchnad Casnewydd yn cynnal ffair gyda bwydydd fegan a chynhyrchion heb greulondeb - gyda hwyl cynhanesyddol i blant - fis nesaf.

Bydd stondinau sy'n cynnig bwyd poeth ac oer, colur ac anrhegion i fyny'r grisiau yn yr oriel o 10.30 tan 4 pm ar 7 Ebrill.

Bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn cynnwys Babita's Spice Deli, sy'n gweini bwyd Asiaidd heb glwten; Mr Nice Pie, Lotties Vegan Bakery; Eat Petite Bakes; Welshman's Lunch; Jane's Better Butter, Rosie's Raw Foods, Happy Daisy a Handlebar Barista Brew Bar.

Bydd stondinau gofal y croen yn cynnwys Neal's Yard Remedies, Tropic Skin Care a Do Terra Oils.

Bydd cornel grefftau am ddim i blant yn diddanu aelodau iau'r teulu. Bydd ganddi thema gynhanesyddol gyda ffigyrau a theganau meddal ar ffurf deinosoriaid, a llyfrau lliwio a sticeri. Hefyd mae croeso i blant wisgo i fyny.

Mae cyfleoedd o hyd i ddeiliaid stondinau a hoffai gymryd rhan, yn enwedig os byddant yn gwerthu byrgyrs, pitsa neu siocled fegan. Cynigir lle am ddim i ganolfannau achub anifeiliaid.

I gael rhagor o wybodaeth, neu i gymryd rhan, cysylltwch â threfnydd y digwyddiad, Sue Thomas ar 02920 709292 neu ar Facebook #AbFabVegan.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.