Landlord o Gasnewydd wedi cael dirwy
Wedi ei bostio ar Friday 16th March 2018
Mae landlord o Gasnewydd wedi cael dirwy am fethu â chofrestru a dod yn drwyddedig gyda Rhentu Doeth Cymru.
Cafwyd Abdul Kahim o Queens Hill Crescent, Casnewydd yn euog o droseddau o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn Llys Ynadon Caerdydd.
Cafodd ddirwy o £1,000 a’i orchymyn i dalu £444 mewn costau a thâl dioddefwr o £100.
Roedd Mr Kahim ymhlith nifer o landlordiaid De Cymru a gafodd cyfanswm dirwy o £3,720 am osgoi cydymffurfiaeth â Rhentu Doeth Cymru, sef cynllun Llywodraeth Cymru sy’n gwella’r sector rhent preifat yng Nghymru.
Mae hi’n ofynnol i bob landlord sydd ag eiddo yng Nghymru gofrestru eu hunain a’i eiddo, ac mae’n rhaid i landlordiaid ac asiantau sy’n rheoli eu hunain basio hyfforddiant a dod yn drwyddedig.
Mae Cyngor Casnewydd yn gweithio’n agos gyda Rhentu Doeth Cymru i nodi landlordiaid sy’n parhau i anwybyddu’r gyfraith.