Newyddion

Ymlaen i fusnesau Casnewydd

Wedi ei bostio ar Tuesday 27th February 2018

Mae busnes coffi'r entreprenteur ifanc llwyddiannus o Gasnewydd Jonathan Hill wrthi'n ehangu drwy gymorth gan Gyngor Dinas Casnewydd.

Cafodd menter ddiweddaraf Jonathan yn y ddinas, siop goffi yng ngorsaf fysus Friars Walk, gymorth busnes a sefydlwyd gan y cyngor.

Mae mentrau sefydledig wedi gallu gwneud cais am grant os ydynt yn ehangu ac yn recriwtio staff newydd.

Agorodd y gŵr busnes o Gasnewydd ei siop Hi-Coffee gyntaf yng Ngorsaf Drenau Casnewydd yn 2013 ac mae ganddo bellach dri safle yn y ddinas a dau mewn lleoliadau eraill.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, aelod cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros adfywio a thai: "Mae'n wych gweld gŵr ifanc o Gasnewydd yn cael y fath lwyddiant, ac yn buddsoddi yn ninas ei fagwraeth lle cafodd ei addysgu.

  "Heb amheuaeth mae gwaith caled a brwdfrydedd Jonathan wedi cyfrannu at dwf ei fusnes ac rwy'n siŵr y bydd yn parhau i ffynnu.

Meddai Jonathan: "Roedd yn bwysig i mi leoli fy musnes yn y ddinas a chyflogi pobl leol. Er fy mod i'n estyn allan i lefydd eraill, y mae calon Hi-Coffee yng Nghasnewydd.

  "Hoffwn ddiolch i Gyngor Dinas Casnewydd am ei gefnogaeth a arweiniodd at agor y caffi yng ngorsaf fysus Friars Walk."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.