Newyddion

Y Cyngor yn gosod pwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydanol mewn maes parcio yn y ddinas

Wedi ei bostio ar Thursday 29th March 2018
Councillor Roger Jeavons and Paul Jones with electric charging point March 28

Y Cynghorydd Roger Jeavons, Aelod Cabinet a Paul Jones, Pennaeth Strydlun ym maes parcio Sgwâr y Parc yng Nghasnewydd lle ceir dau bod gwefru ar gyfer cerbydau trydanol at ddefnydd y cyhoedd

Mae dau bwynt gwefru newydd ar gyfer cerbydau trydanol bellach ar gael at ddefnydd y cyhoedd.

Cytunodd Cyngor Dinas Casnewydd i osod y podiau ym maes parcio Sgwâr y Parc yng nghanol y ddinas.

Daw hyn yn sgil penderfyniad y Cyngor i leihau allyriadau carbon ar draws y ddinas a chreu amgylchedd mwy iach a gwyrdd drwy gyflwyno dau gerbyd trydanol i'w fflyd.

Bydd y Nissan Leafs 30kWa yn cael eu defnyddio gan ein Tîm Tai Sector Breifat i gwblhau ymweliadau cartref i gefnogi pobl ag addasiadau sy’n rhoi gwell symudedd a hygyrchedd iddynt yn eu cartrefi eu hunain.

Gosodwyd y pwynt gwefru cerbyd trydanol cyntaf ar gyfer y Nissan Leafs y tu allan i'r Ganolfan Ddinesig ar ddechrau mis Mawrth.

Cafodd y ddau bod gwefru at ddiben y cyhoedd eu gosod yr wythnos hon.

Gall gyrwyr ceir trydanol ddefnyddio’r rhwydwaith gwefru agored pwynt-pod sydd ar gael i’w lawrlwytho fel ap ar ffôn clyfar.

Croesawodd y Cynghorydd Roger Jeavons, yr Aelod Cabinet dros Strydlun, y cam o osod y ddau bwynt gwefru newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Jeavons, “Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i leihau’r effaith y mae ein gweithrediadau yn ei chael ar yr amgylchedd ac ystyrir yr ychwanegiad hwn o ddau gerbyd trydanol at ein fflyd, yn ogystal â gosod y tri phwynt gwefru yn y ddinas, yn rhai o’r ffyrdd amrywiol o gyflawni’r nod hwn.”

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.