Newyddion

A grant of £2.5 million from the National Lottery has been secured to help recapture, enhance and celebrate the unique heritage of the historic Gwent Levels landscape.

Wedi ei bostio ar Wednesday 14th March 2018

Mae grant o £2.5 miliwn gan y Loteri Genedlaethol wedi'i sicrhau er mwyn adfer, gwella a dathlu treftadaeth unigryw tirwedd hanesyddol Gwastadeddau Gwent.

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd y cyllid hwn yn helpu i hybu ac ailgysylltu pobl â threftadaeth, bywyd gwyllt a harddwch gwyllt y dirwedd hanesyddol yma, gan wneud cyfraniad arwyddocaol at les pobl leol a chenedlaethau'r dyfodol.

Daw'r cyhoeddiad yn dilyn mwy na thair blynedd o gynllunio a gwaith sylfaen gan bartneriaid y Gwastadeddau Byw, gan weithio'n agos â chymunedau lleol i greu cynllun a fydd yn gwneud byd o wahaniaeth i bobl leol. Yn ystod y tair blynedd a hanner nesaf, bydd Gwastadeddau Gwent yn elwa o gyfres o brosiectau er mwyn adfer a gwella treftadaeth naturiol yr ardal, datblygu gwerthfawrogiad llawer gwell o werth y dirwedd drwy wella gwybodaeth, hyrwyddo a mynediad ac, yn olaf, ysbrydoli pobl i ddysgu am dreftadaeth y Gwastadeddau ac ymwneud â hi. Mae'r bartneriaeth yn cael ei harwain gan RSPB Cymru ac yn cynnwys tri awdurdod lleol - Caerdydd, Casnewydd a Sir Fynwy - Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Natur Gwent, Archifau Gwent, Buglife Cymru, yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Gwenyn, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Amgueddfa Stori Caerdydd a Sustrans.

Dywedodd Katie-jo Luxton, Cyfarwyddwr RSPB Cymru, Partner Arweiniol yn y Gwastadeddau Byw:

"Mae'r cyllid i'r Gwastadeddau Byw yn gyfle gwych i adfer ac ailddarganfod yr ardal wledig ryfeddol yma, sy'n gwbl wahanol i fywyd y ddinas, fel 'ysgyfaint gwyrdd' i bobl dinasoedd mawr Caerdydd, Casnewydd a chymoedd De Cymru.  Rydyn ni eisiau dathlu Gwastadeddau Gwent a sicrhau bod byd natur a hanes rhyfeddol yr ardal yma ar gael yn fwy hwylus i bawb eu mwynhau a'u hastudio.

Fedrwn ni ddim aros i ddechrau gweithio gyda'r bobl a'r cymunedau sy'n defnyddio'r dirwedd unigryw yma ac yn hoff ohoni. Mae RSPB Cymru yn falch iawn o fod yn arwain y bartneriaeth uchelgeisiol yma, a fydd yn helpu i greu dyfodol mwy cynaliadwy i'r Gwastadeddau - eu bywyd gwyllt, y bobl a'r economi - yn ein barn ni."

Bydd y cyllid sylweddol yn helpu i warchod y dirwedd ac yn ysbrydoli pobl a sefydliadau lleol i ddod at ei gilydd i ddatblygu eu potensial economaidd llawn, creu ffyniant cynyddol a sicrhau manteision adfywio eraill i'r ardal. Bydd buddsoddi mewn llwybrau cerdded a beicio newydd yn ei gwneud yn haws i amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd gael mynediad i'r ardal ryfeddol yma a dysgu am ei hanes a'i threftadaeth.

Ychwanegodd Richard Bellamy, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru: "Mae ein tirweddau trawiadol ni'n diffinio cymeriad unigryw Cymru ac maen nhw'n rhan o bwy ydyn ni yn union fel ein hanes ni, yr iaith a rygbi. Maen nhw'n agos at galon y bobl sy'n galw Cymru'n 'gartref' yn ogystal â'r degau ar filoedd o dwristiaid sy'n ymweld â nhw.

"Rhaid gofalu am y llefydd bregus yma ar gyfer y dyfodol ac, o'u rheoli'n ofalus, gallant chwarae rhan bwysig iawn hefyd mewn datblygu economi ein gwlad.

"Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae gennym ni gyfle yn awr i gefnogi a gofalu am yr ardal yma, gan dynnu sylw at ei manteision i bawb sy'n byw ac yn gweithio yma."

Bydd y cyllid yn adfer nodweddion treftadaeth allweddol ar draws y Gwastadeddau, gan gynnwys eu perllannau hynafol a'r cynefinoedd ar gyfer pryfed peillio prin fel y gardwenynen feinlais, un o wenyn prinnaf y DU. Hefyd mae'r partneriaid wedi datblygu rhaglen uchelgeisiol i orfodi gweithredu cyfreithiol ynghylch gwaredu sbwriel yn anghyfreithlon ac i annog newid ymddygiad a fydd, ochr yn ochr â gwaith y gwirfoddolwyr, yn arwain at fwy o ymwneud gan y gymuned â'r dirwedd, a mwy o werthfawrogiad o werth anhygoel asedau treftadaeth hanesyddol a naturiol yr ardal.

Bydd y buddsoddiad yn arwain at fwy na 1,000 o gyfleoedd hyfforddi a gwirfoddoli ac yn cynnwys prosiectau gyda ffermwyr a pherchnogion tir, ysgolion a cholegau, ac amrywiaeth eang o grwpiau cymunedol ledled y tri awdurdod lleol, sef Caerdydd, Casnewydd a Sir Fynwy.

Mae'r partneriaid yn hyderus y bydd prosiectau niferus y rhaglen Gwastadeddau Byw yn dod â straeon y dirwedd ryfeddol yma'n fyw, gyda llawer ohonyn nhw heb eu hadrodd eto, gan addo denu a difyrru ymwelwyr hen a newydd â Gwastadeddau Gwent.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.