Newyddion

Arddangos a dathlu gwaith disgyblion

Wedi ei bostio ar Monday 25th June 2018

Mae ysgolion cynradd ar draws Casnewydd yn cymryd rhan mewn rhaglen a luniwyd i gynnwys plant yn y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau.

Aeth rhai o'r bobl ifanc sy'n rhan o'r Rhwydwaith Dysgu Cyfranogiad Disgyblion (PPPPLN) i ddigwyddiad arbennig yn y Ganolfan Ddinesig i arddangos a dathlu eu gwaith.

Ymhlith y rhai wnaeth longyfarch y disgyblion ar eu projectau a'u llwyddiant roedd Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd y Cyng. Debbie Wilcox ac Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau'r cyngor, y Cyng. Gail Giles.

Dywedodd y Comisiynydd Plant: "Dylai hawliau plant fod wrth wraidd bywyd yr ysgol, ac mae gan bob plentyn hawl i roi ei farn ar benderfyniadau sy'n effeithio arno. Drwy roi lle ystyrlon i blant yn y broses o wneud penderfyniadau, rydym yn eu grymuso i lunio'r amgylcheddau y maen nhw'n dysgu ynddynt, a all eu helpu i lwyddo."

Cyflwynodd y Cynghorydd Giles dystysgrif i bob disgybl ac ysgol ar ddiwedd y digwyddiad yn siambr y cyngor.

Yng Nghasnewydd, mae'r PPLN yn cynnwys Ysgolion Sant Julian, Glan Usk, Pillgwenlli, Glasllwch, Malpas Court, Gwynllyw, Eveswell a Mount Pleasant. Mae projectau eleni wedi trafod pynciau amrywiol gan gynnwys cenhadon gwych; y cwricwlwm newydd a blaenoriaethau ar gynlluniau datblygu ysgolion.

Dywedodd Claire Orford, o Ysgol Gynradd Sant Julian, sy'n arwain y rhwydwaith yn y ddinas: "Mae'r rhaglen hon, sy'n deillio o Lywodraeth Cymru'n mabwysiadu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, wedi bod ar waith yng Nghasnewydd ers wyth mlynedd.

 "Mae disgyblion wedi ymateb yn frwd i'r cyfle i gael eu llais wedi'i glywed ac mae ystod y pynciau y maen nhw'n eu trafod ac yn ymchwilio iddynt yn dangos bod ganddynt ddiddordeb gwirioneddol yn y byd o'u cwmpas a sut mae'n effeithio ar eu bywydau nhw ac eraill."

Dywedodd y Cynghorydd Giles: "Unwaith eto mae disgyblion y PPLN wedi creu gwaith gwych sy'n haeddu ystyriaeth, a hoffwn ddiolch iddyn nhw, eu hysgolion a'r staff sy'n rhan o'r rhaglen bwysig hon."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.