Newyddion

Pob tocyn wedi ei werthu

Wedi ei bostio ar Tuesday 26th June 2018
Official sunset pic Transporter Bridge resized

Aeth mwy na 125 o bobl i ymweld â Phont Gludo Casnewydd ar 21 Mehefin – y diwrnod hiraf – i wylio’r machlud.

Cafwyd perfformiad gan Gôr Meibion Dinas Casnewydd yn y digwyddiad gyda’r hwyr wrth i ymwelwyr fwynhau’r noson arbennig i lansio cynllun Cyngor Dinas Casnewydd i godi arian i sicrhau dyfodol y bont hanesyddol.

Dyma’r cyntaf o blith nifer o ddigwyddiadau i annog defnydd amrywiol ar y bont, profiadau gwahanol ac i ddenu ymwelwyr newydd.

Trefnwyd y digwyddiad gan y Cyngor a Chyfeillion y Bont sydd yn elusen gofrestredig, er mwyn gofyn i’r gymuned leol helpu’r cyngor i godi £100,000 ac i lansio tudalen Just Giving yr apêl.

Caiff yr arian a gaiff ei godi ynghyd â chyfraniadau eu defnyddio i ychwanegu at yr arian cam cyntaf a ddaeth i law o’r cynnig llwyddiannus i Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) a roddodd £1 miliwn i’r project yn gynharach eleni.

Mae’r cyngor a’r Cyfeillion angen dangos bod digon o gefnogaeth leol i fynd a chynnig am ail rownd o ariannu gan CDL ac i ddenu cyllid ychwanegol ar ffurf grantiau.

Mae Chris Goddard sy’n gweithio i adran Strydlun y cyngor yn gwneud ei ran yntau drwy ganiatáu i’w ddelwedd fuddugol o’r bont i gael ei defnyddio ar gardiau post ac eitemau eraill i’w gwerthu yn y ganolfan ymwelwyr.

Bydd grant CDL a’r arian a gaiff ei godi i’r gronfa yn mynd at atgyweirio’r gondola Fictoraidd a ddefnyddir i gludo pobl a cherbydau dros Afon Wysg a chostau parhaus cynnal a chadw’r bont 112 oed.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: Gwerthwyd pob tocyn ac yn ffodus i ni roedd y tywydd yn wych a’r machlud yn ysblennydd.

“Cerddodd rhai ymwelwyr dros y top ac fe fwynhaodd eraill yr olygfa o’r gondola wrth i’r côr ganu.

“Roedd hi’n noson lwyddiannus iawn ac rydym yn bwriadu adeiladu ar hyn a chynnal digwyddiadau tebyg eto yn y dyfodol."

Os hoffai unrhyw un wybod mwy am gynllun CDL a’r modd y mae’n helpu Pont Gludo Casnewydd yna ewch i http://www.newport.gov.uk/heritage/Transporter-Bridge/Transporter-Bridge.aspx

Ac os hoffech gyfrannu i’r gronfa ewch i:

https://www.justgiving.com/crowdfunding/newporttransporterbridge1?utm_source=Facebook&utm_medium=Yimbyprojectpage&utm_content=newporttransporterbridge1&utm_campaign=projectpage-share-owner&utm_term=4wJMG7mEj

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.