Newyddion

Dull newydd o ddarparu ar gyfer preswylwyr

Wedi ei bostio ar Friday 15th June 2018

Mae Cabinet Cyngor Casnewydd wedi rhoi'r golau gwyrdd i gynllun i wella ac integreiddio gwasanaethau cymorth i breswylwyr.

Bydd hybiau cymdogaethol yn rhoi teuluoedd ac unigolion wrth galon y modd y gellir cyrchu gwasanaethau mewn modd cyfoes a chynaliadwy.

Mae ymchwil helaeth wedi nodi pedwar darpar hyb yn ardaloedd y gogledd, dwyrain, gorllewin a chanol y ddinas gyda chanolfannau cymunedol yn gweithredu fel "lloerennau" cymunedol.

Mae gwasanaethau fel Teuluoedd yn Gyntaf, Dechrau'n Deg a Cymunedau am Waith yn cael eu rheoli ar wahân mewn dros 70 o adeiladau ar draws y ddinas.

Credir y bydd dwyn rheolaeth ar y gwasanaethau hyn ynghyd i un lleoliad yn arwain at ymagwedd fwy cydlynol i deuluoedd ac unigolion. Mae sefydliadau eraill hefyd yn debygol o gynnig gwasanaethau yn yr hyb.

Bydd y gwasanaethau yn parhau i gael eu cynnig yn y cymunedau lle mae eu hangen nhw fwyaf, trwy'r canolfannau cymunedol, ond yr hyb fydd y pwynt cyswllt cyntaf ac yn cydlynu'r gwasanaethau.

Mae Ringland, gyda lefelau uchel o amddifadedd a'r nifer fwyaf o ddefnyddwyr gwasanaethau cymunedol, wedi ei dewis fel y lleoliad ar gyfer y cynllun peilot i'w dreialu cyn ei ehangu i ardaloedd eraill.

Bydd gwaith sylweddol, yn costio dros £1.7 miliwn, yn gweddnewid Canolfan Gymunedol Ringland yn adeilad ar gyfer y G21 gan ymgorffori Cymunedau yn Gyntaf, Dechrau'n Deg, y llyfrgell a phartneriaid gan gynnwys Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan.

Bydd y lloerennau yn Alway, Somerton, Moorland Park (canolfan gymunedol Dwyrain Casnewydd) a St Julians (Canolfan Beaufort). Rhagwelir y bydd y project yn barod i'w lansio erbyn yr haf nesaf.

Meddai'r Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: "Rydym am greu modd llawer mwy effeithiol o ddarparu gwasanaethau er budd preswylwyr sydd angen cymorth fwyaf. Ar hyn o bryd, gall hynny olygu mynd i sawl safle gwahanol i gyrchu gwasanaethau neu efallai golli allan ar gefnogaeth a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w bywydau.

 "Drwy ddod â rheolaeth ar y gwasanaethau hynny i'r hyb, bydd un pwynt cyswllt i deuluoedd ac unigolion a fydd yn sicrhau eu bod yn derbyn y cymorth iawn, yn y man iawn."

Dywedodd y Cynghorydd David Mayer, yr aelod cabinet dros gymunedau ac adnoddau: "Mae'n bwysig nodi nad lleihau gwasanaethau yw hyn ond gwella ac ehangu'r ddarpariaeth i breswylwyr.

 "Bydd y gwasanaethau hollbwysig hyn yn dal i gael eu cynnig mewn adeiladau cymunedol o fewn ardaloedd lleol. Nod y project yw cynnig y gwasanaethau iawn, yn y man iawn. Unwaith i'r cynllun peilot fod yn llwyddiannus yn Ringland, caiff ei ehangu i weddill ardaloedd y ddinas."

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.