Newyddion

Anrhydeddu milwyr ddoe a heddiw

Wedi ei bostio ar Tuesday 19th June 2018

Bydd Diwrnod y Lluoedd Arfog a chanmlwyddiant y Llu Awyr Brenhinol yn cael eu dathlu drwy godi'r faner ddydd Llun 25 Mehefin yn y Ganolfan Ddinesig yng Nghasnewydd.

Bydd gwasanaeth, yn dechrau am 10am, yn cael ei arwain gan gaplan y Maer, y Parchedig Diane Karolyn Notley, ac yn cynnwys darlleniad gan y Dirprwy Faer, y Cynghorydd Phil Hourahine.

Bydd y Comodor Awyr Adrian Williams, o'r Llu Awyr, yn cyflwyno ei adran yn y digwyddiad a fydd hefyd yn cynnwys perfformiadau gan ddisgyblion Ysgol Uwchradd John Frost ac Ysgol Gymraeg Casnewydd.

Bydd y ddwy faner yn cael eu codi gan dîm o'r Llu Awyr a bydd personél sy'n gwasanaethu, cyn-filwyr a chadetiaid yn mynychu'r digwyddiad.

Ymysg y lleill a fydd yn mynychu fydd Arglwydd Raglaw Gwent, y Brigadydd Robert Aitken, Uwch Siryf Gwent, Sharon Linnard, ac arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Debbie Wilcox, yn ogystal â chynghorwyr a chynrychiolwyr o ysgolion.

Mae croeso i'r cyhoedd hefyd - gofynnir iddynt fod y tu allan i'r Ganolfan Ddinesig erbyn 9.50am.

Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn gyfle i ddangos cefnogaeth i filwyr a'u teuluoedd, cyn-filwyr a chadetiaid. Mae'r Llu Awyr wedi bod yn 'cadw'r awyr yn ddiogel' ers 1918 ac mae digwyddiadau i ddathlu ei ganmlwyddiant wedi bod yn cael eu cynnal ledled gwledydd Prydain eleni.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.