Newyddion

Tipwyr anghyfreithlon yn dympio gwastraff i finiau mynwentydd

Wedi ei bostio ar Friday 15th June 2018
St Woolos Cemetery

St Woolos Cemetery

 

Mae tipwyr anghyfreithlon yn dympio eu sbwriel yn y biniau mawr ym mynwentydd Cyngor Dinas Casnewydd.

Yn y mis diwethaf, mae staff y Cyngor wedi darganfod gwastraff masnachol - ac mewn un achos, hen sinc a thoiled - yn y biniau mawr sydd ar gyfer blodau wedi darfod.

I geisio datrys y broblem hon bydd y Cyngor yn cymryd camau megis symud biniau, lleihau nifer y biniau sydd ar gael a newid maint biniau. Byddwn hefyd yn edrych ar gyflwyno mwy o fentrau ailgylchu yn y safleoedd.

Daeth y broblem gyda thipio anghyfreithlon i’r amlwg ar ôl i’r Cyngor dderbyn cwynion am finiau yn gorlifo yn y mynwentydd ac wrth ymchwilio, darganfod y gwastraff wedi’i ddympio.

Bydd swyddogion gorfodi gwastraff yn archwilio’r deunyddiau wedi’u tipio’n anghyfreithlon i weld a oes tystiolaeth a allai arwain at erlyniadau.

Meddai'r Cynghorydd Roger Jeavons, Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros y Strydlun: “Mae’n anodd credu bod aelodau o’r cyhoedd yn mynd i’n mynwentydd yn fwriadol er mwyn dympio eu sbwriel yn y biniau mawr sydd yno.

“Rydym yn ymwybodol bod Dydd Sul y Tadau’n fuan ac felly bydd pobl yn mynd i’r mynwentydd yn arbennig i nodi marwolaeth eu hanwyliaid ac rydym yn gwneud ein gorau glas i gadw'r mynwentydd mor lân a thaclus â phosibl.

“Mae staff yn gweithio yn ôl amserlen i sicrhau bod y glaswellt yn cael ei dorri a’r biniau’n cael eu gwacáu.

  “Rydym yn gobeithio y bydd unrhyw un sydd â gwybodaeth am bwy allai fod yn gyfrifol am y tipio anghyfreithlon yn y mynwentydd yn rhoi gwybod yn swyddogol i'r Cyngor amdano fel y gallwn ymchwilio i'r mater." 

Gall trigolion roi gwybod yn swyddogol am dipio anghyfreithlon yn gyfrinachol ar e-bostio [email protected]

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.