Newyddion

Digwyddiad Ysgol Fusnes Dros Dro llwyddiannus arall i Gasnewydd

Wedi ei bostio ar Thursday 28th June 2018

Daeth mwy na 120 o bobl i'r Ysgol Fusnes Dros Dro ddiweddaraf i gael cyngor defnyddiol gan arbenigwyr ar ddechrau neu ehangu busnes.

Mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd, lluniwyd y cyrsiau hyfforddi pythefnos o hyd am ddim i roi'r cymorth, yr arfau a'r hyder sydd eu hangen ar egin entrepreneuriaid i gymryd y cam hollbwysig cyntaf.

Roedd y sesiynau hefyd yn agored i bobl a oedd ganddynt fusnes yn barod, ond am gael ychydig o arweiniad proffesiynol ynghylch materion megis gwerthu a marchnata, creu gwefan am ddim a dod o hyd i gwsmeriaid.

Dywedodd Henry Nicholson, o'r Ysgol Fusnes Dros Dro:  "Roedd y digwyddiad yng Nghasnewydd yn un o'r gorau hyd yn hyn. Mae llu o bobl wedi dod ac rydym wedi clywed am rai syniadau busnes a llwyddiannau rhagorol, a hynny yn y pythefnos cyntaf yn unig.

 "Mae cymysgedd go iawn o bobl wedi bod yma; rhai sydd wedi cynnal busnesau am flynyddoedd sydd eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd, rhai nad oedd erioed wedi rhoi cynnig arno o'r blaen a phawb arall rhyngddynt. Gallwn ddisgwyl gweld grŵp newydd ardderchog o entrepreneuriaid yng Nghasnewydd a fydd yn tyfu ac yn ffynnu."

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, aelod cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros adfywio a thai: "Roeddem wrth ein boddau o gael gweithio gyda'r Ysgol Fusnes Dros Dro am y drydedd gwaith. Mae wedi cynnal ei sesiynau arbenigol â brwdfrydedd braf a fydd wedi ysbrydoli hyd yn oed yn fwy o bobl i wireddu eu syniadau busnes.

 "Hoffwn ddiolch i'r Ysgol Fusnes Dros Dro am y cymorth gwerthfawr y mae wedi'i roi i'r holl gyfranogwyr ac i dîm datblygu economaidd y Cyngor ei hun hefyd am y cymorth parhaus y mae'n ei gynnig i fusnesau newydd, busnesau sefydledig a'r rhai sy'n dymuno adleoli i'r ddinas.

 "I adeiladu ar lwyddiant y digwyddiadau hyn, mae'r tîm wedi bod yn trefnu cymorthfeydd busnes misol ym Marchnad Casnewydd gyda chymorth partneriaid a all helpu pobl i roi prawf ar gyfleoedd masnachu, rhoi cymorth hyfforddi, eu helpu i ddod o hyd i grantiau neu fenthyciadau a llawer mwy."

Mae'r un nesaf yn digwydd ar 9 Gorffennaf. I gael mwy o wybodaeth am y cymorthfeydd busnes, cysylltwch â David Gape ar 01633 678514 neu anfonwch e-bost at [email protected]

I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth arall sydd ar gael gan dîm gwasanaeth busnes y Cyngor ewch i www.newport.gov.uk/cy/Business/Business-home-page.aspx

Cefnogodd Cymdeithas Tai Sir Fynwy a Newport Now ymweliad yr Ysgol Fusnes Dros Dro â'r ddinas.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.