Newyddion

Beth sy'n newydd i Gasnewydd ddigidol?

Wedi ei bostio ar Friday 13th July 2018

Mae Cyngor Dinas Casnewydd (CDC) yn gweithio gyda Pinacl Solutions i ddatblygu ystod o gysylltiadau digidol ledled y ddinas.

Mae cysylltedd ffeibr llawn a chyflym iawn a Wi-Fi cyhoeddus am ddim eisoes o fudd i'r bobl hynny sy'n byw ac yn gweithio yng Nghasnewydd ac yn ymweld â hi. Y cam nesaf yw trydedd haen o gysylltedd a fydd yn creu dinas glyfar a chanddi rwydwaith 'Y Rhyngrwyd Pethau' (RhP).

Esboniodd Cyfarwyddwr Lle Cyngor Dinas Casnewydd, Beverly Owen: "Mae technoleg gwybodaeth yn un o elfennau mwyaf sylfaenol y gwaith o ddarparu gwasanaethau'r sector cyhoeddus. Mae'n galluogi ein staff i ddarparu gwasanaethau yn y ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol. Mae ein strategaeth ddigidol eisoes wedi trawsnewid y gwasanaethau rydym yn eu darparu ond mae hyn hefyd yn creu goblygiadau ehangach ar gyfer dyfodol economaidd Casnewydd. Byddwn yn adeiladu ar y craidd hwn i gyflawni datblygiadau na-feddyliwyd-amdanynt-eto mewn technoleg a fydd o fudd i fusnesau a bywyd cyhoeddus yn y ddinas."

Dywedodd y Cynghorydd David Mayer, aelod cabinet y Cyngor dros y gymuned ac adnoddau: "Mae'r gwaith peilota o ran rheoli ansawdd aer, amddiffyniadau llifogydd a chasgliadau gwastraff eisoes wedi dangos potensial y mentrau hyn. Bydd llawer o ddyfeisiau RhP eraill, megis mesuryddion clyfar, rheoliadau tymheredd, ac ati, yn ein helpu i gefnogi ein dinasyddion sydd fwyaf agored i niwed.

 "Rydym wedi gweld effaith go iawn yn barod ac mae brwdfrydedd a chyffro ein timau TG yn amlwg. Mae'r manteision yn eithaf amlwg o ran effeithlonrwydd sefydliadol a darparu gwasanaeth ond dim ond wedi crafu'r wyneb yr ydym. Mae'r effaith y bydd hyn yn ei chael ar bob agwedd ar fywyd yn y ddinas yn anferth."

Gallwch wrando mwy ar y pwnc hwn trwy wylio: 'Digitalisation in the Public Sector - Communications' ar:

Dydd Sul 15 Gorffennaf am 10.30(am) ar sianel ddigidol 185 SKY

Dydd Sul 12 Awst am 10.30(am) ar sianel ddigidol 185 SKY"

Bydd y rhaglen ar gael ar www.executivetv.org ar ôl y darllediad olaf.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.