Newyddion

Y Felothon yn ei ôl y penwythnos hwn

Wedi ei bostio ar Tuesday 3rd July 2018
Velothon-2015_shutterstock_17316652

Bydd y Felothon Cymru blynyddol yn dychwelyd ar ddydd Sul 8 Gorffennaf ac yn croesawu miloedd o feicwyr hamdden a chodwyr arian i ffyrdd de-ddwyrain Cymru.

Y Felothon yw sbortîf mwyaf Cymru ac mae’n ddigwyddiad amlwg yn rhaglen gynyddol Casnewydd o ddigwyddiadau gan helpu i godi proffil y ddinas ar lefel ryngwladol.

Mae’r Felothon yn gyfres o rasys lluosog ar draws y byd – cynhaliwyd rasys y llynedd yn yr Almaen, Cymru, Sweden, Canada ac Awstralia.

I hwyluso’r trefniadau ac er diogelwch y rhedwyr, bydd angen cau rhai heolydd a chyfyngu ar barcio ar hyd llwybr y ras.  Fodd bynnag, diolch i Felothon Cymru a ailwampiwyd, gall trigolion Casnewydd ddisgwyl gweld llai o ffyrdd o gryn dipyn yn cau eleni gyda disgwyl i'r holl ffyrdd o gylch Casnewydd ail-agor erbyn 11.30am.

Mae manylion llawn y ffyrdd fydd ynghau a’r mannau gwylio gorau ar gael yma www.velothon.com/wales

Yn ychwanegol i’r llwybr 140km poblogaidd, cynigir dau lwybr byrrach eleni gan agor y digwyddiad i feicwyr o bob gallu ac uchelgais.

Mae’r llwybr 125km yn osgoi dringfa heriol y Tymbl, tra bod y llwybr 60km newydd, llwybr pwynt i bwynt sydd yn dechrau ym Mrynbuga gan orffen yng Nghaerdydd yn berffaith ar gyfer y rheiny sy’ n newydd i fyd beicio, sy’n awyddus i brofi’r wefr o feicio ar ffyrdd caeedig am  y tro cyntaf.

Dylai trigolion Casnewydd hefyd gofio, oherwydd y ffyrdd fydd ar gau i’r Felothon, na fydd y Ganolfan Gwastraff y Cartref ac Ailgylchu ar Docks Way ar agor tan 12pm ar ddydd Sul 8 Gorffennaf a bydd yna’n cau’n hwyrach na’r arfer am 6pm i roi cyfle i drigolion gael mynediad i’r safle.

Mae’r trefnwyr yn ymddiheuro o flaen llaw am unrhyw anghyfleustra ac yn sicrhau y bydd cyn lleied o darfu â phosibl.

Maen nhw hefyd am ddiolch i breswylwyr am eu dealltwriaeth ac maen nhw’n ddiolchgar am eich cefnogaeth a'ch cydweithrediad.

Ar gyfer ymholiadau ar gau ffyrdd a materion lleol, ewch i www.velothon.com/wales, e-bost  [email protected] neu ffoniwch  02921 660 790.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.