Newyddion

Diolch am ymuno â Bioblitz St Woolos

Wedi ei bostio ar Tuesday 31st July 2018
St Woolos Bio Blitz Chris Packham july 21

Chris Packham yn cwrdd â’i gefnogwyr yn ystod ei daith Bioblitz o’r DU pan alwodd heibio Mynwent St Woolos yng Nghasnewydd

Hoffai Gyngor Dinas Casnewydd ddiolch i’r cofnodwyr bywyd gwyllt arbenigol ac aelodau’r cyhoedd a ddaeth i’n Bioblitz ym Mynwent St Woolos  fel rhan o daith Bioblitz Chris Packham o amgylch y DU.  

 Daeth mwy na 150 o bobl i gymryd rhan ar y diwrnod  (ddydd Sadwrn 21 Gorffennaf ) gan gofnodi mwy na 360 o wahanol rywogaethau o blanhigion, ffyngau, cennau, pryfed, mamaliaid ac adar (rydyn ni’n dal i gyfrif felly bydd y ffigur hwn yn uwch!)!  

 Mae hwn yn swm mawr o rywogaethau ar gyfer ein mynwent dinesig mwyaf a hynaf, ac mae’r Cyngor yn falch iawn o’r holl waith a wnaed ddydd Sadwrn.  

Mae gan y Cyngor nawr restr gynhwysfawr o'r hyn sydd gennym ar y safle, a bydd hyn yn ein helpu i'w reoli yn y dyfodol.  

Diolch arbennig i Chris Packham a'r ymwelydd annisgwyl, Iolo Williams, a ddaeth draw gan ysbrydoli cymaint o ymwelwyr gyda’u brwdfrydedd dros y bywyd gwyllt a ganfuwyd.  Dangoswyd nad yw Gwarchodfeydd Natur yn Ddigon!

Diolch hefyd i Ganolfan Cofnodion Bioamrywiaeth De-ddwyrain Cymru a wnaeth ein helpu i gasglu’r data.  

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.