Newyddion

Adolygu chwaraeon a hamdden yn y ddinas

Wedi ei bostio ar Wednesday 4th July 2018

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi comisiynu astudiaeth ar chwaraeon a darpariaeth hamdden llesol sy'n cael ei ariannu ar y cyd gyda Llywodraeth Gymru. 

Bydd Casnewydd Fyw, yr ymddiriedolaeth elusennol sy'n rheoli ac yn cynnal chwaraeon a gwasanaethau hamdden ar ran y Cyngor, hefyd yn gweithio gyda'r Cyngor a'r ymgynghorwyr sydd wedi'u penodi, Mace.  

Cynhelir adolygiad manwl o gyfleusterau hamdden a chwaraeon ac adroddir ar hwn yn nes ymlaen yn y flwyddyn. 

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Harvey, Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Ddiwylliant a Hamdden: "Mae gennym ni nifer o gyfleusterau hamdden a chwaraeon yn y ddinas ac am nifer o resymau rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr eu bod yn y lleoliadau iawn a'u bod yn darparu'r gwasanaethau iawn ar gyfer trigolion.

"Yn fwyaf arwyddocaol, yn rhan o Ddeddf Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu arlwy celfyddydau, chwaraeon a diwylliant ffyniannus.  Bydd yr adolygiad yn trafod sicrhau bod  yr elfen chwaraeon a hamdden o'r nod hwnnw ar y trywydd iawn.

"Rydyn ni hefyd yn gwybod bod rhai o'n hasedau, fel Canolfan Casnewydd, yn cyrraedd diwedd eu hoes ac mae angen ystyried y materion hyn yn llawn yn rhan o'r astudiaeth hon. 

"Caiff yr adolygiad ei ystyried yn drylwyr cyn i unrhyw gynigion fynd gerbron y Cyngor ond rhaid pwysleisio mai dechrau'r broses yw hyn o wneud yn siŵr bod ein cyfleusterau i gyd yn gynaliadwy a'u bod yn cyrraedd safon yr 21ain ganrif."

Dwedodd Steve Ward, Prif Weithredwr Casnewydd FYW:  "Mae Bwrdd Casnewydd FYW wrth eu bod yn arwain yr adolygiad gyda Chyngor Dinas Casnewydd a'r holl randdeiliaid allweddol.  Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'r Cyngor ac ymgynghorwyr MACE i sicrhau eu bod yn cael yr holl wybodaeth a mewnwelediad sydd eu hangen arnyn nhw. 

"Mae Casnewydd FYW eisoes yn cael mynediad at yr offer cynllunio sydd wedi'u llywio gan ddata deinamig a fydd yn ein helpu i fodelu darpariaeth cyfleusterau yn y dyfodol ar gyfer y ddinas ac a fydd yn ein galluogi i benderfynu ar gyfeiriad chwaraeon, ymarfer corff a lles yn y dyfodol a fydd yn galluogi'r ddinas i gynnal digwyddiadau chwaraeon a chwaraeon elitaidd ac i roi cyfleoedd gwych i drigolion i gymryd rhan.

"Ar ôl i uwchgynllun y cyfleuster gael ei lunio, Bydd Bwrdd Casnewydd FYW a rhanddeiliaid allweddol yn gallu rhoi strategaeth ar waith i ddarparu a chynnal y cyfleusterau a'r rhaglenni gan gyffroi, ysbrydoli ac ennyn diddordeb trigolion lleol a chan ddenu chwaraeon ar lefel byd-eang i'r ddinas."

Diwedd

Cysylltiadau Cyhoeddus

Cyngor Dinas Casnewydd

01633 210461

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.