Newyddion

Ceisiadau meithrin ar agor nawr

Wedi ei bostio ar Tuesday 3rd July 2018

Mae ceisiadau ar gyfer lleoedd meithrin Casnewydd yn 2019 ar agor nawr.

Mae plant yn gymwys am le meithrin yn y tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn dair oed ac yng Nghasnewydd gall hyn fod mewn dosbarth / ysgol feithrin a gynhelir neu mewn lleoliad nas cynhelir (grŵp chwarae neu feithrinfa ddydd breifat).

Am le meithrin ym 2019 (meithrinfeydd a gynhelir yn unig), gellir gwneud ceisiadau rhwng 3 Gorffennaf a 14 Medi 2018.

Fodd bynnag, yn wahanol i'r blynyddoedd diwethaf, nid oes angen i rieni gyflwyno cais ar wahân ar gyfer lle i blant sy’n codi’n 3 oed. Gellir cynnig lleoedd i blant sy’n codi’n 3 oed a anwyd rhwng 1 Medi a 31 Mawrth, gyda dyddiad dechrau mewn meithrinfa o Ionawr neu Ebrill 2019.

Ar ôl i gais meithrin gael ei wneud, os oes lle ar gael i blant sy’n codi’n 3 oed, caiff rhieni eu hysbysu’n awtomatig a chynigir y lle iddynt.

Nid yw plant a anwyd rhwng 1 Ebrill a 31 Awst yn gymwys am le i blant sy’n codi’n 3 oed.

Mae’r cyngor yn gyfrifol am dderbyniadau i ysgolion meithrin cymunedol ond am le meithrin mewn ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu leoliad nas cynhelir, dylid gwneud ymholiadau yn uniongyrchol i'r ysgol neu'r darparwr.

Mae lleoedd Cymraeg a Saesneg ar gael.

I gael rhagor o wybodaeth a ffurflenni cais, ewch i www.newport.gov.uk/schooladmissions

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.