Newyddion

Arian y Loteri Genedlaethol wedi cael ei sicrhau ar gyfer arcêd hanesyddol

Wedi ei bostio ar Wednesday 11th July 2018

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn falch iawn o gyhoeddi ei fod wedi llwyddo i sicrhau arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer cynllun i ailwampio ac adnewyddu Arcêd y Farchnad.

Dyfarnodd y Loteri Genedlaethol (drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri) yr arian datblygu ar gyfer y project Treftadaeth Treflun y llynedd.

Erbyn hyn, mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi cadarnhau y rhoddwyd y cynnig llawn am dros £1.1 filiwn er mwyn adennill Arcêd y Farchnad i'w hen ogoniant.

Wedi ei enwi’n Fennell’s Arcade yn wreiddiol, cafodd yr arcêd ei chreu ym 1869 fel llwybr allweddol i gerddwyr rhwng gorsaf y rheilffordd a’r farchnad newydd bryd hynny.

Yn y blynyddoedd diweddar, mae wedi dirywio, a hyn wedi arwain y Cyngor, gan weithio gyda'i pherchenogion amrywiol i ddod o hyd i ddatrysiad, i gyflwyno’r cynnig i Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Meddai’r Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: “Dyma ddarn arall o newyddion gwych i ganol y ddinas, a hoffwn ddiolch i bawb oedd ynghlwm wrth y cynnig llwyddiannus - swyddogion y Cyngor, perchenogion, aelodau'r gymuned ac ysgolion, ac, wrth gwrs, y bobl sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl hebddynt.

 “Y gwaith o adfywio canol y ddinas yw prif flaenoriaeth fy ngweinyddiaeth o hyd ac rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i ddod o hyd i ffyrdd arloesol o roi bywyd newydd i ardaloedd allweddol, fel Arcêd y Farchnad.

“Mae preswylwyr o bob oed, o blant ysgol i breswylwyr hŷn, ag atgofion melys o’r arcêd yn ei dyddiau gorau wedi cymryd rhan yn y cam datblygu, ac maent wedi ymddiddori yn hanes yr arcêd. Mae’n arwyddocaol felly y bydd y project hwn yn helpu i ddiogelu a gwella rhan o dreftadaeth Casnewydd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, aelod cabinet y cyngor dros adfywio a thai: “Mae'r newyddion ardderchog hyn yn ganlyniad i waith caled iawn swyddogion a gwirfoddolwyr dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn gweithio gyda pherchenogion y safle, ei denantiaid a'r gymuned ehangach.

“Mae’n bwysig pwysleisio mai project hirdymor yw hwn, ac mae angen i nifer o bethau ddigwydd cyn i’r gwaith ar yr arcêd fynd rhagddo, ond y gobaith yw y bydd y gwaith adeiladu yn cychwyn cyn tymor y gwanwyn y flwyddyn nesaf, a bydd y gwaith hwnnw'n para tua 15 mis."

Ychwanegodd Richard Bellamy, pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Cymru: “Mae hyn yn newyddion gwych i Gasnewydd a bydd adnewyddu Arcêd y Farchnad hanesyddol hon yn hwb i’r ddinas. Bydd yr ased pwysig hwn yn cael bywyd newydd ac yn dod yn berthnasol i bobl heddiw er mwyn dod yn rhan allweddol, unwaith eto, o galon Casnewydd – a hynny er lles y gymuned leol yn ogystal ag ymwelwyr â’r ddinas.”

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.