Newyddion

Siom i ddysgwyr Casnewydd gan ddatganiad LlC

Wedi ei bostio ar Thursday 12th July 2018
DebbieWilcox

“Roedd datganiad diweddar Llywodraeth Cymru am achrediad hyfforddiant athrawon yn newyddion siomedig iawn i Gasnewydd ac i Brifysgol De Cymru.  

“Mae’n bwysig ein bod yn hyfforddi ein hathrawon mor effeithiol â phosibl ar gyfer yr heriau y byddant yn eu hwynebu ac rwy'n synnu bod Casnewydd a Phrifysgol De Cymru wedi colli yn y broses hon. 

“Fel athro fy hun, rwyf wedi gweld y gwaith ardderchog y mae ein prifysgol yng Nghasnewydd yn ei wneud o ran codi safonau addysgu a gwella canlyniadau ar gyfer dysgwyr. Oherwydd hyn, mae’n anodd deall diddymu’r ddarpariaeth hyfforddi athrawon yng Nghasnewydd.

“Byddaf yn cefnogi Prifysgol De Cymru a’i ysgolion partner mewn unrhyw apêl ac yn ceisio cael eglurder ar yr asesiad a’r broses werthuso er mwyn deall pam y gwrthodwyd cais y Brifysgol i gynnig Addysg Cychwynnol i Athrawon yng Nghasnewydd. 

“Rwy’n deall y gwnaed argymhelliad gan banel annibynnol a oedd yn cynghori’r Cyngor y Gweithlu Addysg, ond rwy’n bryderus ynghylch lefel y goruchwyliaeth ddemocrataidd a fu ar gyfer penderfyniad mor bwysig. A ystyriwyd buddiannau dysgwyr ac ysgolion Casnewydd neu rannau eraill Cymru wrth i'r biwrocratiaid anhysbys hyn wneud eu penderfyniadau?

“Hefyd, ys gwn i ai proses fidio gystadleuol yw’r defnydd gorau o adnoddau tra mae’r esgid yn dal i wasgu.  Pryd erioed y bu i rymoedd y farchnad gyflawni’r canlyniadau gorau i ddysgwyr?  Boed yn addysg uwch neu addysg ôl-16, mae angen i ni symud oddi wrth ddulliau llywodraethau diwethaf y DU, sy’n dilyn tuedd y farchnad i addysg ac sydd wedi methu, a darparu gwasanaethau mewn partneriaeth ac mewn cydweithrediad, gydag atebolrwydd democrataidd lleol sy’n rhoi angen y dysgwyr yn gyntaf.”

Y Cynghorydd Debbie Wilcox
Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.