Newyddion

Gwedd newydd i'r ganolfan seibiant

Wedi ei bostio ar Friday 13th July 2018

Cafodd Centrica Lodge, cartref seibiant i oedolion ag anableddau dysgu yng Nghasnewydd, ei hailagor yn swyddogol wedi project adnewyddu mawr.

Mae'n cynnwys cyfleusterau en-suite mewn pum ystafell wely; adnewyddu'r tu mewn; cyfleusterau cegin newydd a gwell ac ail-addurno'r holl adeilad.

CPI Care Ltd sy'n rhedeg y cartref yn y Gaer, ac mae'n cynnig gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar y person, yn rhoi'r cyfle i bobl ag anableddau dysgu i fwynhau cyfnodau byr o seibiant i ffwrdd o'u cartref mewn amgylchedd lle cânt eu hannog i ddatblygu eu sgiliau byw yn annibynnol.

Arweiniwyd y cynllun gan Gyngor Dinas Casnewydd, a'i hariannu gan Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru a gwnaed y gwaith gan Grŵp Kier.

Cynhaliwyd te bach yn y cartref i nodi'r agoriad swyddogol ac aeth teuluoedd, y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd a chynghorydd ward, y Cynghorydd Paul Cockeram, aelod cabinet y cyngor dros y Gwasanaethau Cymdeithasol a gwesteion eraill yno.

Dywedodd y Cynghorydd Wilcox: "Cafodd safon y cynllun hwn argraff fawr arna i; mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr i Centrica Lodge a 'dyw ddim yn syndod i mi fod yr adborth gan y defnyddwyr a'u teuluoedd wedi bod yn dra chadarnhaol.

 "Bu CPI, staff, swyddogion y Gwasanaethau Cymdeithasol a'r contractwyr i gyd yn gweithio'n hynod o galed i wneud y project hwn yn llwyddiant, ac rydyn ni i gyd yn ddiolchgar am arian Llywodraeth Cymru, a wnaeth popeth yn bosibl."

Dywedodd y Cynghorydd Cockeram: "Mae gofal seibiant yng Nghasnewydd yn fwy na lle i aros, mae'n cynnig cyfleoedd a gweithgareddau i bobl i roi profiad gwych iddyn nhw.

Dyna'n union mae CPI yn wneud, ac mae'r cyfleusterau gwell hyn yn ei gwneud yn bosibl gwella'r cyfleoedd hyn mewn amgylchedd llawer gwell.

 "Tra roedd y gwaith yn mynd rhagddo, bu'n rhaid cau'r cartref dros dro, ond hoffwn ddiolch i CPI am gynnig ystod wych o weithgareddau eraill i gynorthwyo unigolion a'u teuluoedd yn ystod y cyfnod hwnnw.

 "Hoffwn ddiolch hefyd i'r teuluoedd am eu hamynedd yn ystod y cyfnod, ond rwy'n siŵr y byddan nhw'n cytuno fod canlyniadau'r gwaith yn werth y tarfu dros dro ar y gwasanaeth."

Dywedodd Stephanie Haywood, Rheolwr Gyfarwyddwr CPI Care:  "Mae CPI yn falch iawn o fod yn rhan o drawsnewid Centrica Lodge; mae gweld y gwahaniaeth y mae wedi ei wneud i fywydau'r defnyddwyr gwasanaeth wedi bod yn werth chweil.

 "Rydyn ni'n ceisio datblygu annibyniaeth yn Centrica, felly bydd cynnwys en-suite ac ailgynllunio'r gegin yn helpu i ni hybu hynny'n well. Hoffem ni ddiolch i Gasnewydd am fuddsoddi cymaint yn y gwasanaeth mawr ei angen hwn yr ydyn ninnau'n falch iawn o gynnig gofal ohono."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.