Newyddion

Cyngor yn camu i'r adwy i helpu gwasanaeth bws

Wedi ei bostio ar Tuesday 10th July 2018
Newport_bus_station,_Friars_Walk

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi camu i’r adwy i helpu trigolion sydd wedi colli eu gwasanaeth bws lleol.

 Mae arian gan y cyngor yn golygu y gall gwasanaeth bws i adfer y cysylltiad rhwng Clevedon Road a Tennyson Road, a gollwyd pan gafodd gwasanaeth 10A/C ei ddileu, fynd yn ei flaen.

 Mewn ymateb i’r broblem penderfynwyd y bydd gwasanaethau 26A/C St Julians yn gwasanaethu’r llwybr dair gwaith y dydd.

 Mae’r amserlen bws yn nodi y bydd y gwasanaeth CT (Clevedon Road a Tennyson Road) newydd yn rhedeg o Orsaf Fysus Casnewydd am 9am, hanner dydd a 3pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Bydd y gwasanaeth newydd yn dechrau ddydd Llun, 23 Gorffennaf gyda chefnogaeth y cyngor.

Dywedodd llefarydd Cyngor Dinas Casnewydd bod y cyngor yn awyddus i annog pobl i fanteisio ar y gwasanaeth 26 estynedig newydd neu mae’n bosib y caiff ei ddileu os na chaiff ei ddefnyddio.

“Rydym yn gwybod bod llawer o bobl yn dibynnu ar wasanaethau bws, yn enwedig trigolion hŷn yr ardal sy’n defnyddio eu pasys bws i deithio i’r ddinas, ac a oedd yn drist iawn pan gafodd eu gwasanaeth lleol ei ddileu.

“Buom yn ystyried y ffordd orau o sicrhau bod rhyw fath o wasanaeth ar gael yn ardal Clevedon Road a Tennyson Road ac mae ymestyn gwasanaeth St Julians 26 A&C yn ateb perffaith i’r broblem hon.

 “Rydym yn cefnogi’r gwasanaeth newydd gan ein bod yn gwybod y caiff ei werthfawrogi gan y teithwyr hynny a fyddai’n rhaid iddynt wneud trefniadau eraill fel arall, ac felly rydym yn gobeithio y bydd pobl yn gwneud defnydd helaeth ohono,” dywedodd y llefarydd.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.