Sul Dinesig
Wedi ei bostio ar Wednesday 11th July 2018
Eglwys Gadeiriol Casnewydd
Bydd gwasanaeth blynyddol Casnewydd i groesawu’r Maer newydd yn cael ei gynnal yn Eglwys Gadeiriol Casnewydd yn Stow Hill ddydd Sul 15 Gorffennaf.
Daeth y Cynghorydd Malcolm Linton yn Faer Casnewydd ym mis Mai eleni gan ddilyn y 385 a'i ragflaenodd, ac yn ystod ei flwyddyn yn y swydd bydd yn cael cymorth gan ei wraig Sharon, y Faeres newydd.
Mae Gwasanaeth Dinesig y Maer yn un o ddigwyddiadau blynyddol mawr y Cyngor ac mae’n gyfle i'r ddinas groesawu ei Dinesydd Cyntaf diweddaraf.
Deon yr Eglwys Gadeiriol fydd yn arwain y gwasanaeth, ac yn rhan ohono bydd darlleniadau gan Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Debbie Wilcox, a’r Maer.
Bydd Côr Eglwys Gadeiriol Casnewydd yn canu.
Mae croeso i aelodau o’r cyhoedd, ac mae trefnwyr yn argymell eu bod yn cyrraedd Eglwys Gadeiriol Casnewydd erbyn 2.45pm. Does dim llawer o leoedd parcio o amgylch yr eglwys, ac mae pobl yn cael eu hannog i barcio yn rhywle arall neu i gerdded os oes modd.