Newyddion

Mae'r broses gwneud cais am Gynnig Gofal Plant Cymru wedi agor yng Nghasnewydd

Wedi ei bostio ar Tuesday 24th July 2018

O fis Medi 2018, bydd teuluoedd Casnewydd ymysg y rheiny yng Nghymru a all hawlio 30 awr o ofal plant ac addysg gynnar a ariennir gan y Llywodraeth am hyd at 48 wythnos y flwyddyn fel rhan o Gynnig Gofal Plant newydd i Gymru.

Gall rhieni neu warcheidwaid cymwys sy'n gweithio ac sydd â phlant tair a phedair blwydd oed yn y Gaer (gan gynnwys Maesglas), Tŷ-du, Llyswyry, Malpas, St Julian's, Stow Hill a Shaftesbury, bellach wneud cais ar http://www.newport.gov.uk/cy/Care-Support/Children-and-families/Family-Information-Service/Childcare/Childcare-offer.aspx

Mae cynllun Llywodraeth Cymru yn cael ei dreialu yn y wardiau hynny yr hydref hwn cyn cael ei gyflwyno gam wrth gam ledled y ddinas.

Bydd yn cynnwys cyfuniad o addysg gynnar a ddarperir gan y Cyfnod Sylfaen sy'n agored i bob plentyn tair a phedair blwydd oed a'r gofal plant ychwanegol a ariennir i deuluoedd cymwys.

Mae'n rhaid i rieni fodloni'r meini prawf canlynol:

  • Bod â phlentyn tair neu bedair oed sy'n gallu manteisio ar addysg ran-amser
  • Mae'n rhaid iddynt fod yn byw yn un o'r ardaloedd peilot yng Nghasnewydd
  • Mae'n rhaid i'r ddau riant fod yn gweithio mewn teulu dau riant, neu'r unig riant mewn teulu un rhiant, ac yn gweithio am 16 awr neu fwy, naill ai'n gyflogedig neu'n hunangyflogedig

NEU

  • Rhaid eu bod yn ennill cyfwerth â gweithio am 16 awr ar y cyflog byw cenedlaethol neu'r isafswm cyflog cenedlaethol

NEU

  • Yn derbyn budd-daliadau gofal penodol

I gael mwy o wybodaeth am y cynllun, neu i wneud cais, ewch i www.newport.gov.uk/childcareoffer http://www.newport.gov.uk/cy/Care-Support/Children-and-families/Family-Information-Service/Childcare/Childcare-offer.aspx

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.