Newyddion

Ail-lansio Rhwydwaith Economaidd Casnewydd dan arweinyddiaeth newydd

Wedi ei bostio ar Thursday 1st February 2018

Mae Simon Gibson, enw blaenllaw ym myd busnes yng Nghymru, wedi cytuno i fod ar flaen y gad yn Rhwydwaith Economaidd Casnewydd wrth iddo ddechrau ar bennod newydd.

Dair blynedd yn ôl, cafodd y rhwydwaith ei sefydlu drwy waith gan dasglu ReNewport i nodi cyfleoedd busnes dan arweiniad yr Athro Gibson.

Mae'n bartneriaeth eang o gynrychiolwyr cyrff allweddol yng Nghasnewydd a bu'n cwrdd yn anffurfiol yn rheolaidd.

Mae wedi cynorthwyo i baratoi uwchgynllun canol y ddinas, fframwaith ar gyfer datblygu yn y dyfodol sy'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, ac mae wedi cyfrannu at fenter Dinas Democratiaeth.

Mae nifer o ffactorau sylweddol wedi dod i'r fei'n ddiweddar sy'n gofyn am sylw corff economaidd mwy ffurfiol i fanteisio ar gyfleoedd a hyrwyddo buddiannau'r ddinas.

Mae'r rhain yn cynnwys partneriaeth a Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd; gostyngiad yn nhollau Pont Hafren a'u diddymiad tebygol; a menter Dinasoedd Mawr y Gorllewin sy'n ystyried creu "Pwerdy'r Gorllewin" gan gynnwys Casnewydd, Bryste a Chaerdydd.

Mae'r Athro Gibson yn brif weithredwr cwmni buddsoddi Wesley Clover yng Nghasnewydd, sydd wedi ariannu mwy na 150 o gwmnïau technoleg newydd.

Fel cadeirydd ReNewport argymhellodd sefydlu un o Academïau Meddalwedd Cenedlaethol cyntaf y DU, yr Academi Diogelwch Seibr Genedlaethol, Innovation Point ac ysgol letygarwch sydd oll yn ffynnu'n y ddinas.

Roedd yn un o sawl a ysgogodd BeTheSpark sy'n hyrwyddo mentergarwch ac arloesi yn economi Cymru a Sefydliad Alcrity, Casnewydd, sy'n elusen addysgol sy'n mentora ac yn hyfforddi graddedigion i greu'r genhedlaeth nesaf o gwmnïau technoleg gyfoes yng Nghymru.

Cafodd CBE yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd.

Dywedodd yr Athro Gibson: "Mae'n bleser gennyf gael fy ngwahodd i gadeirio Rhwydwaith Economaidd Casnewydd mewn cyfnod cyffrous o her a chyfleoedd i'r ddinas. Mae llawer wedi'i gyflawni ers i ni lansio Tasglu ReNewport ac mae'n amserol i ni adfywio'r partneriaethau economaidd yn y ddinas i hybu twf yn y dyfodol.

  "Mae'r Ganolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru newydd yn Celtic Manor, diddymiad tollau Pont Hafren a Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn rhai enghreifftiau o'r datblygiadau allweddol y mae angen i Gasnewydd fanteisio arnyn nhw'n llawn i hybu'r ymdrech adfywio. Daeth llawer o bobl i Uwchgynhadledd Casnewydd yn ddiweddar gan sbarduno trafodaethau diddorol, ac mae hynny'n dangos bod chwant ac awydd i hybu ffyniant y ddinas."

Meddai'r Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: "Mae gan Gasnewydd rôl ganolog mewn nifer o'r cyfleoedd economaidd sy'n dod i'r amlwg, fel dinas ac mewn partneriaethau strategol.

  "Mae'n hanfodol ein bod yn meithrin partneriaethau cryf er mwyn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd hynny a sicrhau bod y ddinas yn arwain mewn datblygiadau a fydd yn hybu'r economi leol ac a fydd yn rhoi gwaith i drigolion nawr ac yn y dyfodol.

  "Hoffwn ddiolch i Simon am gytuno i gadeirio Rhwydwaith Economaidd Casnewydd. Mae ganddo hanes ym maes diwydiant, creu elw ac adfywio ac mae angen ei arbenigedd a'i egni i helpu'r ddinas i adeiladu ar ei llwyddiannau a chyrraedd ei llawn botensial."

Bydd rhagor o fanylion am flaenoriaethau a gweledigaethau Rhwydwaith Economaidd Casnewydd yn cael eu rhyddhau cyn bo hir.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.