Gwasanaeth Diwrnod Cofio'r Holocost
Wedi ei bostio ar Monday 22nd January 2018
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cynnal Diwrnod Cofio'r Holocost yn y ddinas gyda gwasanaeth arbennig yng Nghadeirlan Casnewydd ddydd Mercher 24 Ionawr am 11am.
Bydd Maer Casnewydd, y Cynghorydd David Fouweather, yn mynychu'r gwasanaeth a gaiff ei arwain gan y Tra Pharchedig Lister Tonge gyda chymorth y Canon Mark Dimond.
Mae’r gwahoddedigion yn cynnwys Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Debbie Wilcox, Uchel Siryf Gwent, Kevin Thomas a’i wraig Mrs Elaine Thomas, Arglwydd Raglaw Gwent, y Brigadydd Robert Aitken, Prif Weithredwr y Cyngor, Will Godfrey a’r Faeres Mrs Paula Fouweather.
Mae pobl ifanc o ysgolion y ddinas hefyd wedi’u gwahodd i’r digwyddiad gyda disgyblion dethol yn cymryd rhannau arweiniol yn y gwasanaeth gan gynnwys disgyblion o Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Joseff a Grŵp Pres Ieuenctid Gwent.
Arweinir yr orymdaith ganhwyllau gan ddisgyblion o Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair gyda’r darlleniad cyntaf gan ddisgybl o Ysgol Uwchradd John Frost, a’r ail ddarlleniad gan ddisgybl o Ysgol Uwchradd Casnewydd. Bydd disgyblion o Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Joseff yn darllen gweddïau a byddant yn rhan o’r Orymdaith Ganhwyllau.
Bydd disgyblion o Ysgolion Cynradd Ringland, Millbrook a Phillgwenlli yn ffurfio gosgordd er anrhydedd ym mhrif fynedfa’r gadeirlan.
Mae’r digwyddiad cofio cenedlaethol wedi’i gynnal yn y DU er 2001 gyda mwy na 2,400 o weithgareddau lleol yn cael eu cynnal ar neu o gwmpas 27 Ionawr bob blwyddyn.
Dyma ddiwrnod y gallwn ni i gyd dalu teyrnged a chofio’r miloedd o bobl a fu farw, neu a welodd eu bywydau yn trawsnewid yn ystod yr Holocost, erledigaeth y Natsiaid, ac mewn cyfnodau diweddarach o hil-laddiad yng Nghambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur.
Thema gwasanaeth eleni yw ‘grym geiriau’ a gofynnir i bobl sut gall geiriau wneud gwahaniaeth er gwell neu er drwg, gan dynnu sylw at yr effaith y cafodd geiriau yn ystod yr Holocost a'r cyfnodau dilynol o hil-laddiad, trwy bropaganda a ddefnyddiwyd i annog, sloganau a ysgrifennwyd i wrthsefyll a chofiannau'n cofnodi digwyddiadau o’r fath.
Os hoffech chi gymryd rhan yng ngwasanaeth y ddinas yna dewch ar y diwrnod. Disgwylir i’r gwasanaeth bara ychydig llai nag awr.