Newyddion

Lawrlwythwch boster i ddangos eich cefnogaeth i Glwb Pêl-droed Casnewydd

Wedi ei bostio ar Monday 22nd January 2018

Mae poster a grëwyd gan Glwb Pêl-droed Casnewydd i ddathlu eu gêm ym mhedwaredd rownd Cwpan yr FA yn erbyn Tottenham Hotspur o Uwchgynghrair Lloegr ar gael i'w lawrlwytho.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd, Ardal Gwella Busnes Casnewydd a’r clwb pêl-droed yn ymuno â'i gilydd i helpu pobl ledled y ddinas i ddangos eu cefnogaeth i'r rheolwr Michael Flynn a'r bois cyn eu gêm gwpan fwyaf ers degawdau.

Gallwch fynd i wefan Cyngor Dinas Casnewydd a dilyn y ddolen hon: *****, gwefan y clwb neu wefan Ardal Gwella Busnes Casnewydd.

Mae baneri pob lwc nawr i’w gweld mewn mannau allweddol ar draws canol y ddinas a gall busnesau lleol a thrigolion ymuno yn yr hwyl drwy addurno eu ffenestri ag unrhyw beth du ac aur!

Mae’r cyngor hefyd wedi cytuno i ymestyn oriau agor maes parcio Sgwâr y Parc (NP20 4EL) yng nghanol y ddinas tan ganol nos i helpu ffans ac ymwelwyr i fwynhau’r gêm ac aros yn y ddinas yn hirach.

Gellir parcio yno am £2 am hyd at dair awr, £4 am hyd at bum awr a £5.50 am dros bum nawr a hyd at 24 awr.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.