Gwerthwr dillad ffug yn cael ei ddedfrydu
Wedi ei bostio ar Wednesday 24th January 2018
Rhai o'r nwyddau a atafaelwyd
Mae gwerthwr dillad ar-lein a blediodd yn euog i droseddau o dan Ddeddf Nodau Masnach 1994 wedi'i ddedfrydu i naw wythnos yn y ddalfa wedi'i ohirio am 12 mis.
Ymddangosodd Alireza Balmeh, a oedd yn masnachu’n flaenorol fel Yes Clearance, yn Llys yr Ynadon Cwmbrân ar 18 Rhagfyr 2017.
Cafodd yr achos ei ohirio tan 19 Ionawr 2018, lle yn ogystal â’r ddedfryd wedi’i gohirio, gorchmynnwyd iddo dalu costau o £2,342 i Gyngor Dinas Casnewydd, £140 o ordal i’r dioddefwr a fforffedu pob eitem a gipiwyd gyda gwerth amcangyfrifedig o £65,000.
Roedd yr erlyniad, gan adran safonau masnach Cyngor Dinas Casnewydd, yn dilyn archwiliad i weithgareddau masnachu Balmeh, sy’n gweithredu yng Nghasnewydd.
Ym mis Mai 2016, prynodd aelod o'r cyhoedd grysau polo Abercrombie a Fitch a Ralph Lauren o wefan Yes Clearance Balmeh.
Ac yntau’n amau ansawdd y crysau polo, cysylltodd yr aelod o’r cyhoedd ag adran safonau masnach Cyngor Dinas Casnewydd.
Yn dilyn ymchwiliad cychwynnol, cyflwynwyd gwarant ar gyfeiriad yng Nghasnewydd a ddefnyddiwyd gan Balmeh ym mis Medi 2016 pan gipiwyd llawer o ddillad ffug, yn ogystal â chyfrifiadur a dogfennaeth busnes.
Roedd y brandiau dillad a gipiwyd yn cynnwys Fred Perry, Hugo Boss a Calvin Klein yn ogystal ag Abercrombie and Fitch a Ralph Lauren y cwynwyd amdanynt o’r blaen.
Yn gynwysedig yn y ddogfennaeth busnes roedd llythyr gan Lu Ffiniau'r DU sy'n rhoi gwybod i Balmeh eu bod wedi cadw llwyth o grysau polo Ralph Lauren roeddent yn amau eu bod yn ffug.
Cafodd mwy na 1,200 o eitemau o ddillad eu cipio oddi ar Balmeh gyda gwerth manwerthu amcangyfrifedig o £65,000.
Dywedodd y Cynghorydd Ray Truman, Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Drwyddedu a Rheoleiddio: “Rydym yn cefnogi busnesau cyfreithlon a thalwyr y dreth cyngor trwy gymryd camau gweithredu cadarn yn erbyn gwerthwyr nwyddau ffug. Nid yw’r fath bobl yn rhoi unrhyw ystyriaeth i effaith eu gweithgareddau ar yr economi leol a chenedlaethol.
“Mae gwerthu cynhyrchion ffug o’r fath yn bygwth busnesau a dinasyddion deddfgadwol ar sawl lefel; mae manwerthwyr yn wynebu cystadleuaeth annheg ac mae defnyddwyr yn cael bargen wael a chynnyrch israddol.
“Byddwn yn parhau i gefnogi busnesau lleol ac amddiffyn dinasyddion Casnewydd trwy gymryd camau gweithredu cadarn yn erbyn y fath weithgarwch anghyfreithlon a thrwy hyrwyddo ein hymgyrch 'Fake Free Newport.'"