Newyddion

Bydd y Cyngor yn paratoi cynllun gweithredu i fynd i'r afael â materion ansawdd yr awyr ledled y ddinas

Wedi ei bostio ar Wednesday 24th January 2018
Newport VVP - aerial April 2017

Mae gan yr holl awdurdodau lleol ddyletswydd dan ran IV Deddf Amgylchedd 1995 i sicrhau bod ansawdd yr aer yn unol â darpariaethau Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) 2010 o ran lefelau nitrogen deuocsid yn yr aer.

Er mwyn cydymffurfio â’r ddyletswydd hon, mae swyddogion Iechyd yr Amgylchedd Casnewydd wedi bod yn adolygu meysydd lle mae angen sylw oherwydd safon aer gwael sy’n deillio o lefelau uchel o Nitrogen Deuocsid oherwydd lefelau uchel o draffig mewn ardaloedd lle mae’r boblogaeth yn drwchus.

Pan nad yw ansawdd yr aer yn cyrraedd y safonau gofynnol, bydd yr Awdurdod Lleol yn datgan Ardal Rheoli Ansawdd yr Aer.

Bydd cyflwyno pedair Ardal Rheoli Ansawdd yr Aer a gwneud yr addasiadau i’r Gorchmynion presennol yn rhoi’r gallu i’r Cyngor i baratoi Cynllun Gweithredu diwygiedig i fynd i’r afael â materion ansawdd aer yn yr ardaloedd hynny. Mae naw Ardal Rheoli Ansawdd yr Aer o’r fath yng Nghasnewydd.

Mae’r Ardaloedd newydd a gynigir yn cynnwys ardal ger eiddo sydd gyfochr â’r M4 yng nghyffordd 27 High Cross; Cefn Road, sy’n rhan o'r ffordd o Gyffordd High Cross yr M4 a Pye Corner; Caerffili, sy’n rhan o'r prif ffordd trwy Bassaleg ac allan i Machen a Chaerffili, a rhan o George Street; mae llygredd aer yn yr ardaloedd hyn oherwydd tagfeydd traffig.

Nid oes angen i Ardal Rheoli Ansawdd yr Aer yn Malpas Road (gogledd), sydd wedi gweld tuedd gostyngol yn lefelau’r llygredd aer dros y bum mlynedd ddiwethaf, fod yn ardal wedi ei rheoli bellach.

Caiff dwy Ardal Rheoli Ansawdd yr Aer sydd yn Caerleon Road a Clarence Place/Chepstow Road eu cyfuno yn un Ardal, a chaiff yr Ardal Rheoli Ansawdd yr Aer sy’n cynnwys Malpas Road (de) ei hestyn rywfaint.

Mae canlyniadau ansawdd yr aer yng Nghaerllion yn dangos cynnydd mewn llygredd sydd y tu hwnt i ffin Ardaloedd  Rheoli Ansawdd Aer presennol. Cynigir ehangu Ardal Rheoli Ansawdd Aer Caerllion er mwyn cynnwys rhan isaf Stryd Fawr Caerllion, rhan o Stryd y Castell a phen New Road.

Mae’r cynigion a gynigir yn cynrychioli ymrwymiad y Cyngor i wella amgylchedd a lles y ddinas.

Anfonir adroddiad nawr at y Cynghorydd Ray Truman, yr Aelod Cabinet dros Drwyddedu a Rheoleiddio er mwyn i adran gyfreithiol y cyngor allu llunio gorchmynion ffurfiol.

Caiff y preswylwyr y mae'r Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer yn effeithio arnynt wybod amdanynt trwy gyfrwng llythyr a bydd y manylion llawn ar gael ar wefan y Cyngor.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.