Newyddion

Cefnogaeth i raglen gwella ysgolion uchelgeisiol

Wedi ei bostio ar Tuesday 16th January 2018

Yn ddiweddar cyflwynodd Cyngor Dinas Casnewydd gais am gyllid i Lywodraeth Cymru ar gyfer gwneud gwelliannau gwerth £70 miliwn i ysgolion yn y ddinas.

Mae’r cyngor ar ben ei ddigon gyda'r penderfyniad i gefnogi'r cais o ran egwyddor ac yn awr gall gwaith gychwyn ar gamau nesaf y cynllun.

Nod rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru yw lleihau nifer yr ysgolion a’r colegau sydd mewn cyflwr gwael a sicrhau bod gan Gymru ysgolion a cholegau o’r maint priodol yn y lleoliadau priodol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Gail Giles: “Mae hwn yn newyddion gwych i ysgolion Casnewydd. Yn ogystal â’n galluogi i wneud gwelliannau y mae galw mawr amdanynt, bydd yr arian hwn hefyd yn ein helpu i sicrhau bod ein hysgolion yn addas i gynnig y profiad addysgol gorau posibl i’r genhedlaeth sydd ohoni a chenedlaethau'r dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: “Rydyn ni wedi gwneud ymrwymiad clir i ysgolion ac addysg ac yn ei ategu drwy sicrhau rhagor o arian yn ystod y flwyddyn ariannol hon a chynigion i barhau â'r fath gymorth yn y flwyddyn i ddod.  Fodd bynnag, mae’r arian sydd ar gael i ni’n gyfyngedig iawn ac mae’r her sy’n ein hwynebu ni ac ysgolion yn parhau i gynyddu. Mae hyn yn golygu bod y gefnogaeth a’r arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i'w groesawu fwy nag erioed ac yn ein galluogi i gyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer pobl ifanc yn ein dinas.

Dan y rhaglen hon, gwahoddwyd awdurdodau lleol i wneud cais am gyllid i gyflawni’r gwaith dan sylw yn eu hardaloedd.

Cynigiodd Cyngor Dinas Casnewydd welliannau gwerth £70 miliwn yn y gobaith y byddai Llywodraeth Cymru cyllido 50 y cant o'r cyllid hwnnw.

Dewiswyd yr ysgolion sydd wedi’u cynnwys yn y cynnig yn unol ag amcanion y Cyngor a blaenoriaethau strategol y rhaglen. Dewiswyd yr ysgolion sy’n cael blaenoriaeth ar sail eu cyflwr, nifer y lleoedd ysgol sydd ar gael yn yr ardal, a’r ffordd orau o ddefnyddio asedau presennol. 

Nawr bydd gwaith yn dechrau ar y cynlluniau manwl, achosion busnes a’r rhaglen waith a fydd yn cael eu hystyried ymhellach gan Lywodraeth Cymru fel sy’n ofynnol o dan y rhaglen gyllido.

Roedd y cynllun amlinellol a gyflwynwyd yn cynnwys y projectau canlynol ond mae'n bosibl y bydd yr union elfennau yn newid wrth i drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru fynd rhagddynt:

Ysgolion uwchradd

Cynigir cyflawni gwelliannau yn yr ysgolion canlynol, gan gynnwys gwaith i newid adeiladau dros dro a gwaith ailfodelu er mwyn sicrhau bod digon o leoedd ysgol:

  • Ysgol Basaleg
  • Ysgol Uwchradd Caerllion
  • Ysgol Gyfun Gwent Is Coed

Ysgolion cynradd

Cynigir cyflawni gwelliannau ar safleoedd, gan gynnwys mewn mannau arlwyo a mannau allanol, er mwyn gwella cyfleusterau a chreu rhagor o leoedd ysgol, yn yr ysgolion canlynol:

  • Ysgol Gynradd Maesglas
  • Ysgol Gynradd Pillgwenlli
  • Ysgol Gynradd Maendy
  • Ysgol Gynradd Tŷ-du
  • Ysgol Gynradd Gwynllyw Sant
  • Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Malpas

Hefyd yn rhan o'r cynigion y mae cyllid i adeiladu ysgolion newydd yn y ddinas, a fydd wedi’u hariannu’n rhannol gan ddatblygwyr:

  • Ysgolion Cynradd Glan Llyn a Llanwern
  • Ysgol newydd sydd wedi’i chynnig ar safle datblygu Whiteheads 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.