Newyddion

Cynllun i fynd i'r afael â pharcio anghyfreithlon

Wedi ei bostio ar Thursday 1st February 2018

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi cytuno i weithredu cynigion i fynd i'r afael â phroblem gyrwyr anghyfrifol sy'n anwybyddu rheoliadau traffig ac sy'n parcio'n anghyfreithlon yn y ddinas.

Cytunodd y cyngor llawn ar adroddiad ar y posibilrwydd o gyflwyno gorfodi parcio sifil anhroseddol yng Nghasnewydd ddydd Mawrth 30 Ionawr.

Cychwynnwyd y broses ym mis Rhagfyr y llynedd wedi i aelodau o'r pwyllgor rheoli craffu a throsolwg argymell bod y cyngor yn cymryd y camau gweithredu hyn.

Roedd y Cynghorydd Roger Jeavons, Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros y Strydlun yn fodlon ar benderfyniad y cyngor llawn.

"Mae pawb yn bryderus, ac yn ddigon teg, dros nifer y gyrwyr sy'n parcio'n hunanol yn lle bynnag y mynnant gan anwybyddu gorchmynion traffig megis llinellau melyn dwbl ac igam-ogam ar groesfannau ger ysgolion.

"Rwy' wedi dweud lawer tro yng nghyfarfodydd y cyngor bod perygl go iawn y caiff rhywun ei anafu'n ddifrifol neu hyd yn oed ei ladd oherwydd bod gyrwyr yn anwybyddu rheolau sylfaenol.

"Mae'r broses o gyflwyno Gorfodi Parcio Sifil wedi cychwyn ac rwy'n croesawu'r penderfyniad," dywedodd y Cyng. Jeavons.

Roedd yn rhaid gwneud y penderfyniad i gyflwyno pwerau gorfodi parcio oherwydd pryderon a godwyd gan y cyhoedd ynghylch parcio anghyfreithlon, a chadarnhad y bydd Heddlu Gwent yn arfer eu grymoedd yn llai yn y maes hwn o fis Rhagfyr 2018.

Mae Deddf Rheoli Traffig 2004 yn rhoi'r gallu i awdurdodau lleol fabwysiadu grymodd gorfodi parcio, fodd bynnag bydd gweithredu hyn yn cymryd rhwng 18 mis a dwy flynedd yn ôl adroddiad i'r cyngor.

Mae'r cais am gychwyn y broses o gael cymeradwyo deddfwriaeth trwy Lywodraeth Cymru wedi ei gymeradwyo ac yn y cyfamser mae Heddlu Gwent nawr wedi addo i barhau gorfodi parcio tan gyflwynir dyddiad cychwyn swyddogol ar gyfer Gorfodi Parcio Sifil.

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.