Amseroedd cau'r parciau
Wedi ei bostio ar Friday 16th February 2018
Parc Beechwood
Bydd amseroedd cau parciau’r ddinas yn newid eleni i roi cyfle i geidwaid Cyngor Dinas Casnewydd fynd o amgylch y safleoedd a chloi’r gatiau.
Bydd yr amseroedd ar ddangos yn y parciau i ddangos pryd caiff y gât olaf ei chloi, ond bydd yr amser cloi'n cychwyn 30 munud cyn hynny.
O’r wythnos sy’n cychwyn ddydd Llun 19 Chwefror, caiff y gatiau olaf eu cloi am 6pm ac, yn ystod y pythefnos olynol yn cychwyn ar 26 Chwefror, caiff y gât olaf ei chloi am 6.30pm.
O’r wythnos sy’n cychwyn ddydd Llun 12 Mawrth tan ddydd Sul 25 Mawrth, caiff y gât olaf ei chloi am 7pm ac o 26 Mawrth tan 8 Ebrill, caiff y gât olaf ei chau am 8pm.
O ddydd Llun 9 Ebrill, caiff y gât olaf ei chloi am 8.30pm a dyna fydd yr amser cloi tan 23 Medi, pan fydd y gatiau’n cau’n gynt wrth iddi nosi ynghynt tua’r gaeaf.
Mae manylion llawn yr oriau ar gael ar wefan y Cyngor ar dudalen y parciau.