Newyddion

Dweud eich dweud am y gorchymyn diogelwch cymunedol ar gyfer Maesglas

Wedi ei bostio ar Thursday 15th February 2018

 

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ystyried gweithredu gorchymyn diogelu man cyhoeddus (GDMC) ym Maesglas.

Bydd y Gorchymyn yn canolbwyntio ar yr ardal y tu ôl i siopau Maesglas ar Ffordd Caerdydd a rhai o’r strydoedd gerllaw lle bu ymddygiad gwrthgymdeithasol dros lawer o fisoedd.

Mae cynghorwyr ward Gaer, heddlu Gwent a Chartrefi Dinas Casnewydd oll wedi derbyn adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal hon.

Mae’r cyngor nawr yn gofyn i’r cyhoedd am eu barn ar y cynnig, sy’n cynnwys cau’r lôn gefn y tu ôl i’r siopau â giât.

Y tri chynnig arall yw:

  • Rhwystro pobl sy’n achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol rhag loetran neu ymgasglu ar y stryd;
  • Atal pobl rhag yfed alcohol ar y stryd ac
  • Atal pobl ar y stryd rhag gwerthu, defnyddio neu fod ym meddiant sylweddau a reolir.

 

Gellir defnyddio Gorchymyn i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn man cyhoeddus lle mae’n tarfu neu’n debygol o darfu ar safon bywyd pobl leol, a bod yr ymddygiad yn debygol o barhau ac yn afresymol.

Y Cyngor sydd â’r grym i wneud gorchymyn gwarchod a gall weithredu Gorchymyn ar unrhyw fan cyhoeddus yn ei ardal ei hun am gyfnod heb fod yn hwy na thair blynedd, y gellir ei adnewyddu ar unrhyw adeg.

Creodd a gweithredodd y Cyngor Orchymyn ym mis Tachwedd 2015 yng nghanol dinas Casnewydd ac ym Mhillgwenlli’r llynedd ac mae’r ddau orchymyn eisoes wedi achosi newidiadau cadarnhaol, yn arbennig yn ymwneud ag yfed alcohol ar y stryd.

Gall y cyhoedd nawr ddweud eu dweud am y cyfyngiadau a gynigir a’r ffin a gynigir ar gyfer yr ardal, cynnig sylwadau a hefyd awgrymiadau ar gyfer cyfyngiadau pellach.

Mae manylion llawn ar gael yn www.newport.gov.uk/haveyoursay.

Swyddogion y cyngor fydd yn ystyried yr holl sylwadau a byddant yn gwneud argymhellion i'w hystyried gan yr Aelod Cabinet a’r Cyngor llawn.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.