Newyddion

Hwyl i deuluoedd yng Nghasnewydd yr hanner tymor hwn

Wedi ei bostio ar Thursday 15th February 2018

Gwahoddir teuluoedd yng Nghasnewydd i ddod draw i ddiwrnod o weithgaredd llawn hwyl ar Ddydd Gwener 23 Chwefror 2018.

Bydd digon i blant ei fwynhau – gan gynnwys gweithgareddau dan faner Street Football Wales a Casnewydd Fyw, yn ogystal ag ymddangosiadau gan chwaraewyr clwb pêl-droed Casnewydd, yn dilyn eu hymgyrch anhygoel yn y Cwpan FA.

Bydd teuluoedd hefyd yn gallu cael cyngor ar ystod o bynciau gan sefydliadau lleol gan gynnwys; Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGiD), Cyngor ar Bopeth, Cyngor Ffoaduriaid Cymru a Dysgu Oedolion yn y Gymuned Casnewydd a llawer iawn mwy.

Wedi ei drefnu fel rhan o fenter Teuluoedd yn Gyntaf, caiff y digwyddiad ei gynnal yn Friars Walk rhwng 10am a 3pm.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.