Newyddion

Cyllideb y Cyngor yn addo mwy o arian i wasanaethau allweddol

Wedi ei bostio ar Wednesday 14th February 2018

Er gwaethaf heriau parhaus cyllideb lai i lywodraeth leol, bydd Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd yn buddsoddi £10m yn rhagor mewn gwasanaethau allweddol.

Yn dilyn ymgynghoriad helaeth â’r cyhoedd a phartneriaid, mae’r Cabinet heddiw wedi trafod adborth ar y cynigion arbedion drafft a gyflwynwyd ym mis Rhagfyr a gwnaeth argymhellion i gyllideb 2018/19.

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd y Cyngor: “Yn syml, mae gennym lai o arian a staff nag erioed, ond mae disgwyl i ni gynnig cannoedd o wasanaethau yn y ddinas o hyd.

“Drwy gydol y broses hon, y ffocws yw diogelu gwasanaethau hanfodol a’n trigolion bregus, a sicrhau bod ein dinas yn tyfu yn y dyfodol.”

“Rwy’n falch, er gwaetha’r heriau sylweddol hyn, ein bod wedi parhau i reoli ein cyllid yn effeithiol a thargedu adnoddau i’r blaenoriaethau allweddol a nodir yn ein maniffesto a’n cynllun corfforaethol.

“Yn benodol, rydym wedi rhoi mwy o gymorth i ysgolion y ddinas. Yn ogystal â’r cyllid ychwanegol a ddyrannwyd i ysgolion newydd a gwneud yr hwb o £1.1m a ddyfarnwyd y llynedd yn barhaol, cytunodd y Cabinet hefyd i ychwanegu £420,000 at y gyllideb ysgolion.”

Trafododd y Cabinet ganlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus a phwyso a mesur ail-ddyrannu rhai o’r adnoddau o ganlyniad i’r adborth hwnnw.

Dywedodd y Cynghorydd Wilcox: “Yn y cyfnod hwn a’r gofyn i ni wneud penderfyniadau anodd, mae’n bwysig iawn i ni wrando ar farn trigolion, partneriaid a busnesau, felly diolch i bawb gyfrannodd at yr ymgynghoriad. Rydym wedi ymdrechu’n galed iawn i fynd i’r afael â rhai o’r materion a’r anghenion a godwyd.  

“Yn anffodus nid dyma ddiwedd yr her – rydym yn llawn ddisgwyl y bydd toriadau’r flwyddyn nesaf – ond ni ddylem golli golwg ar yr hyn rydym eisoes wedi ei gyflawni.

“Yn benodol, rydym wedi sicrhau arbedion o £41m dros y pum mlynedd diwethaf a pharhau i wella gwasanaethau; rydym wedi targedu dros £30m o fuddsoddiadau mewn gwasanaethau rheng flaen dros y pedair blynedd diwethaf, sy'n fwy na chyfradd chwyddiant; a heddiw rydym wedi cynnig cyllideb ar gyfer 2018/19 sy’n cynnwys buddsoddiad pellach o £10m mewn gwasanaethau allweddol wrth reoli her barhaus y gostyngiad cyffredinol yn ein cyllid.”

Argymhellodd y Cabinet hefyd gynnydd o 4.8 y cant yn y dreth gyngor, sydd £48.42 yn fwy y flwyddyn neu lai na 94c yr wythnos ar eiddo Band D. Hyd yn oed gyda’r cynnydd hwn, disgwylir y bydd cyfraddau treth gyngor Casnewydd yn dal i fod ymhlith yr isaf yng Nghymru.

Bydd y gyllideb arfaethedig, gan gynnwys y cynnydd yn y Dreth Gyngor, yn mynd gerbron y Cyngor llawn ddydd Mawrth 27 Chwefror.

Mae papurau o gyfarfod y Cabinet ar gael ar-lein. Caiff cofnodion eu cyhoeddi cyn bo hir.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.