Llongyfarchiadau i Mica Moore o Gasnewydd
Wedi ei bostio ar Monday 26th February 2018
Mae arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Debbie Wilcox, wedi ychwanegu ei llais at gôr o ganmoliaeth i dîm bobsled Gemau Olympaidd y Gaeaf Prydain Fawr.
"Ry'n ni'n falch dros ben fod Mica Moore yn hanu o Gasnewydd. Llongyfarchiadau iddi hi a Mica McNeill am eu campau rhyfeddol."
Daeth y tîm yn wythfed yn eu Gemau Olympaidd cyntaf - y safle gorau erioed i Brydain Fawr yn y gamp honno.
Ychwanegodd y Cynghorydd Wilcox: "Beth sy'n gwneud hyn yn fwy rhyfeddol fyth yw eu bod wedi dyfalbarhau pan gafodd eu cyllid ei dynnu'n ôl, ychydig fisoedd cyn Gemau Olympaidd y Gaeaf, gan fynd ati i godi'r arian yr oedd ei angen arnynt i fynd i Pyeongchang.
"Dwi'n mawr obeithio y bydd eu penderfyniad i gystadlu ar y lefel uchaf, yn erbyn pob rhwystr, yn ysbrydoliaeth i bobl ifanc eraill."