Newyddion

Arolwg i ddeall gofynion siopa a hamdden gwahanol ardaloedd

Wedi ei bostio ar Wednesday 12th December 2018

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi comisiynu gwaith ar astudiaeth manwerthu a hamdden gan yr arbenigwyr Nexus Planning a fydd yn cyfrannu at ddiweddariad o bapur technegol cefndirol mewn cysylltiad â chynllun Datblygu Lleol Casnewydd.

Bydd rhan o’r gwaith o gasglu gwybodaeth yn cynnwys gofyn i drigolion am eu dewisiadau mewn cysylltiad â siopa a gweithgareddau hamdden. Bydd arolwg teleffon, yn cynnwys tua 1,400 o drigolion yn ardal Dinas Casnewydd a’r cyffiniau, yn cael ei gynnal gan NEMS Market Research

Bydd y wybodaeth a roddir yn helpu’r cyngor i ddeall yn well sut a lle mae pobl yn hoffi siopa a threulio’u hamser hamdden.

Dylai’r arolwg gymryd tua saith munud i’w gwblhau.  Bydd y cwmni’n cysylltu â phobl y tu allan i oriau gwaith arferol er mwyn sicrhau bod aelwydydd sy’n gweithio yn gallu cymryd rhan.

Ni chaiff unrhyw wybodaeth bersonol ei chasglu ar wahân i oedran a rhyw. Caiff unrhyw wybodaeth a roddir gennych ei defnyddio ar ffurf ystadegau yn unig h.y. ni fydd yn bosibl eich adnabod ar sail eich atebion.

Byddem yn hoffi petai pobl yn dewis cymryd rhan yn yr arolwg a byddwn yn gwerthfawrogi pob ymateb yn fawr iawn, ond nid ydych o dan unrhyw orfodaeth i gymryd rhan.

Os bydd rhywun yn eich ffonio a bod unrhyw bryderon gennych ynghylch hynny, rhowch y ffôn i lawr a rhowch wybod am y digwyddiad i [email protected] . Mae croeso i chi gysylltu â ni os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr astudiaeth.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.