Newyddion

Mae angen gofalwyr maeth Casnewydd ar gyfer plant Casnewydd.

Wedi ei bostio ar Tuesday 4th December 2018

Mae Cyngor Dinas Casnewydd am recriwtio mwy o ofalwyr maeth i ofalu am blant o'r ddinas sydd angen cartref diogel.

Gall ei dîm maethu arbenigol ddarparu cymorth a hyfforddiant proffesiynol i bobl nid yn unig cyn iddynt ddechrau maethu ond tra maent yn gofalu

Neilltuir swyddog maethu i bob gofalwr ac mae gan bob plentyn ei weithiwr cymdeithasol ei hun.

Mae angen gofalwyr ar gyfer y canlynol:

  • maethu dros dro, o un noson i rai misoedd
  • maethu’n barhaol 
  • cynnig gofal seibiant i deuluoedd sydd angen saib unwaith neu’n rheolaidd

Dywedodd y Cynghorydd Paul Cockeram, Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Wasanaethau Cymdeithasol: “Rydym eisiau ein gofalwyr ni ar gyfer ein plant ni Fel Cyngor, rydym yn gweithio law yn llaw â'n gofalwyr er mwyn sicrhau eu bod yn cael cymorth a hyfforddiant parhaus cyn ac ar ôl iddynt ddod yn ofalwyr maeth.

"Rydym yn gwybod bod llawer o bobl a fyddai'n gwneud gofalwyr maeth gwych ac a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywyd plentyn. Byddwn yn eu hannog i gysylltu â'n tîm fel y gallant eich tywys drwy'r broses."

Efallai y bydd gan bobl ddiddordeb mewn maethu ond yn peidio â mynd ag ef ymhellach oherwydd eu bod yn credu na fyddant yn bodloni'r meini prawf.

Dyma'r atebion i rai cwestiynau cyffredin a chwalu rhai mythau

Oes angen ystafell sbâr arnaf? Oes.

Allwch chi weithio a bod yn ofalwr maeth? Gallwch

Oes angen i chi fod yn berchen ar eich cartref eich hun?Nac oes, gallwch fod mewn llety ar rent.

Allwch chi feithrin os oes gennych eich plant eich hun?Gallwch, gall maethu fod yn fater teulu cyfan.

Dw i'n rhy hen/rhy ifanc i faethu.  Nid oes uchafswm nac isafswm oedran, mae eich gallu i faethu yn dibynnu ar eich iechyd a gwiriadau eraill a wneir fel rhan o'r broses asesu.

A allaf fod yn ofalwr sengl? Mae pob math o bobl yn meithrin naill ai fel gofalwyr unigol neu fel cwpl.

Rydym ni mewn perthynas o'r un rhyw felly ni fyddem yn cael ein hystyried. Gall cyplau o'r un rhyw fod yn ofalwyr maeth.

A yw'r plant yn aros gyda chi am byth? Mae arnom angen pob math o ofalwyr maeth, bydd ar rai plant angen teulu nes iddynt ddod yn annibynnol neu bydd angen i rai plant gael gofal am gyfnod byrrach ac yna’n symud ymlaen.

Mae gennym anifeiliaid anwes felly a fyddai hynny'n broblem? Gallwch gael anifeiliaid anwes a chael eich ystyried fel gofalwr maeth gan y byddent yn cael eu cynnwys yn y broses asesu.

Dydw i ddim yn siŵr at bwy i fynd ynglŷn â maethu. Mae gan bob cyngor yng Nghymru wasanaeth maethu ac mae angen gofalwyr maeth ar bob awdurdod lleol, fel Casnewydd, i ofalu am eu plant eu hunain.Rydym yn gweithio law yn llaw fel tîm i ofalu am ein plant gyda'n gofalwyr maeth.

I faethu ar gyfer Cyngor Dinas Casnewydd ewch i www.newport.gov.uk/fostering neu ffoniwch 01633 210272 am fwy o wybodaeth.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.