Newyddion

Dedfryd carchar o 10 mis i ddyn am gyflawni twyll pensaernïaeth

Wedi ei bostio ar Thursday 20th December 2018

Yn dilyn archwiliad gan Dîm Archwilio Safonau Masnach Cenedlaethol (Cymru), mae dyn 23 oed o Gasnewydd wedi cael dedfryd o 10 mis yn y carchar a 180 awr o waith heb gyflog yn Llys y Goron Caerdydd am chwe achos o dwyll. Cynhaliwyd yr erlyniad gan Gyngor Dinas Casnewydd gan fod dau o’r achosion wedi digwydd yn y ddinas.

Rhwng Mehefin 2016 ac Ionawr 2017, hysbysebodd Mitchell Day ei wasanaethau fel pensaer ar Facebook.  Roedd ei hysbyseb yn cynnwys lluniau o waith yr oedd yn honni ei fod wedi’i wneud. Cysylltodd y dioddefwyr â’i fusnes, JP Carpentry & Building Works drwy’r safle cyfryngau cymdeithasol a threfnu i Day fynd i’w cartrefi i gynnal arolwg a chynnig dyfynbris.

Pan fyddai’r dioddefwyr yn cytuno i gyflogi Day, byddai’n gofyn am flaendal yn syth i dalu am ddeunyddiau. Ar ôl cael hyn, byddai Day’n gwneud trefniadau i wneud y gwaith. Ni chyflawnwyd y trefniadau hyn. £7,300 oedd cyfanswm y golled ariannol i’r chwe dioddefwr yn yr achos.

Nid oedd Day’n gweithio yng Nghasnewydd a de Cymru’n unig. Roedd un dioddefwr yn byw yn Sir Gaer, ac un arall yn Essex. Rhoddodd gyfeiriad busnes ffug i’w ddioddefwr a’i gwaeth yn amhosibl iddyn nhw gysylltu ag ef i gwyno nad yw wedi dod i gwblhau’r gwaith.

Roedd ei ddioddefwr hynaf yn fenyw 75 oed o Ferthyr Tudful a dalodd flaendal o £3,800 i Day i ffitio ystafell ymolchi newydd yn ei chartref. Roedd angen offer penodol oherwydd ei phroblemau iechyd a symudedd. Ni wnaethpwyd unrhyw waith erioed. Roedd yn rhaid iddi fyw gyda’i merch nes byddai modd addasu’r ystafell ymolchi.

Defnyddiodd dioddefwr arall o’r Barri ei harbedion i dalu blaendal o £1,200 am ystafell ymolchi newydd. Unwaith eto, aeth Day â’i harian ond ni wnaeth unrhyw waith yn ei chartref. Roedd hi’n gorfod cael benthyciad i dalu busnes cyfreithlon i wneud y gwaith.

Oherwydd ple cynnar, gwnaeth y Barnwr Jeremy Jenkins y ddedfryd yn llai gan draean. Cafodd Mr Day gyfanswm o:

  • 10 mis yn gydamserol am bob un o’r 6 trosedd yn ohiriedig am18 mis
  • 180 awr o waith heb gyflog
  • 19 o sesiynau cwnsela
  • £1,000 o gostau i’w talu ar sail £100 y mis
  • Dim gorchymyn iawndal

Meddai’r Arglwydd Toby Harris, Cadeirydd, Safonau Masnach Cenedlaethol:

 “Gwnaeth Mr Day dwyllo cwsmeriaid, gan arwain at golled o filoedd o bunnoedd iddyn nhw. Rwy’n falch bod gwaith Tîm Archwiliadau Safonau Masnach Cenedlaethol Cymru wedi golygu bod cyfiawnder wedi’i sicrhau.

 “Byddwn yn annog pob cwsmer i fod yn ofalus iawn wrth feddwl am gyflogi masnachwyr y maen nhw wedi dod o hyd iddyn nhw ar gyfryngau cymdeithasol. Cyn cyflogi rhywun, dylech gynnal eich gwiriadau eich hun – gan gynnwys cael geirdaon gan bobl y maen nhw eisoes wedi gwneud gwaith iddyn nhw. Os ydych yn credu eich bod chi, neu rywun yr ydych yn ei adnabod, wedi cael eich twyllo fel hyn, rhowch wybod am hyn i wasanaeth cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth drwy’r llinell gymorth ar 03454 04 05 06.”

Dywedodd y Cynghorydd Ray Truman, yr Aelod Cabinet dros Drwyddedu a Rheoleiddio yng Nghyngor Dinas Casnewydd:

 “Rydym wedi ymrwymo i amddiffyn hawliau dinasyddion Casnewydd, archwilio cwmnïau nad ydyn nhw’n gweithredu’n gyfreithlon a sicrhau erlyniadau mewn achosion o’r fath. Fel cyngor, rydym hefyd yn cefnogi’r cynllun annibynnol, Prynu â Hyder, sy’n helpu cwsmeriaid i ddod o hyd i gwmnïau sy’n agored, yn onest, sy’n gweithredu dan gyfreithiau masnachu ac sydd â gwasanaeth cwsmeriaid da.”

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.