Newyddion

Gorchymyn Diogelu Man Cyhoeddus Maesglas

Wedi ei bostio ar Monday 10th December 2018

Ym mis Medi eleni, cyflwynodd Cyngor Dinas Casnewydd Gorchymyn Diogelu Man Cyhoeddus (GDMC) yn ardal Maesglas y ddinas.

Un o'r cyfyngiadau yn y Gorchymyn oedd cau'r llwybr sy'n rhedeg y tu ôl i'r siopau ar Ffordd Caerdydd, sy’n cael ei adnabod yn lleol fel siopau Maesglas.

Ar 17 Rhagfyr caiff gatiau eu gosod ar bob pen o'r llwybr byr i gyfyngu’n gorfforol ar fynediad, er mwyn atal y llwybr rhag cael ei ddefnyddio gan y rhai sy'n dymuno achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal.

Mae'r GDMC hefyd yn cynnwys nifer o gyfyngiadau eraill a gynlluniwyd i leihau digwyddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac mae'r ardal dan sylw yn cynnwys strydoedd cyfagos sydd wedi profi problemau cyson. Mae'r rhain eisoes wedi gwella'r sefyllfa i drigolion lleol, hyd yn oed cyn gosod y gatiau.

Mae'r cam gweithredu yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynnig ar ôl i nifer o gwynion gan drigolion yr ardal gael eu gwneud i gynghorwyr ward y Gaer, Heddlu Gwent a Chartrefi Dinas Casnewydd.

Gellir defnyddio GDMC i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn man cyhoeddus lle mae’n tarfu neu’n debygol o darfu ar safon bywyd pobl leol, a bod yr ymddygiad yn debygol o barhau ac yn afresymol.

Y Cyngor sydd â’r grym i wneud gorchymyn gwarchod a gall weithredu GDMC ar unrhyw fan cyhoeddus yn ei ardal ei hun am gyfnod heb fod yn hwy na thair blynedd, y gellir ei adnewyddu ar unrhyw adeg.

Adnewyddodd y Cyngor GDMC yn ardal canol y ddinas yng Nghasnewydd fis diwethaf yn dilyn adolygiad tair blynedd ac ym Mhillgwenlli y llynedd ac mae'r ddau Orchymyn eisoes wedi arwain at newidiadau cadarnhaol, yn enwedig mewn perthynas â defnydd alcohol ar y stryd.

Dywedodd y Cynghorydd Ray Truman, yr Aelod Cabinet dros Drwyddedu a Rheoleiddio yng Nghyngor Dinas Casnewydd: "Ymgynghorodd y Cyngor ar y GDMC arfaethedig ar gyfer ardal Maesglas ac roedd yr ymateb yn gadarnhaol iawn.

Gwyddom fod llawer o achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi digwydd, yn enwedig mewn cysylltiad â'r lôn gefn y tu ôl i'r siopau, a dyna pam mae'r clwydi wedi'u gosod i helpu i leddfu'r broblem."

Dywedodd PS Roland Giles, sarsiant yr heddlu cymdogaeth ar gyfer yr ardal: "Rydyn ni'n gwrando ar y cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu a'n hymrwymiad yw delio'n gyflym â'r lleiafrif bach o bobl sy'n llesteirio'r defnydd o fannau cyhoeddus. 

"Rydyn ni'n annog unrhyw un sydd â phryderon am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eu cymdogaeth i'n ffonio ni ar 101." 

Dywedodd Robert Lynbeck, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau yng Nghartrefi Dinas Casnewydd: "Bydd arweinyddiaeth y Cyngor wrth fwrw ymlaen â'r GDMC yn ein galluogi i barhau i gefnogi ein trigolion a chymuned ehangach Maesglas, wrth fynd i'r afael â'r achosion anffodus o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.