Newyddion

Dewch i ddweud eich dweud ar gynigion y gyllideb

Wedi ei bostio ar Wednesday 12th December 2018

Mae cabinet Cyngor Dinas Casnewydd wedi ystyried y gyllideb ar gyfer 2019-20 a sut gallai gwasanaethau gael eu cynnig o fewn yr adnoddau sydd ar gael.

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfres o gynigion am newidiadau i wasanaethau a chymorth a gynigir gan Gyngor Dinas Casnewydd rhwng 13 Rhagfyr 2018 a 30 Ionawr 2019.

Mae’r Cyngor yn darparu mwy na 800 o wasanaethau i fwy na 151,000 o bobl sy’n byw mewn mwy na 65,000 o gartrefi.

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd y Cyngor: “Mae'r cyllid a dderbyniwn wedi aros fwy neu lai'r un peth ac mae hynny'n golygu bod y bwlch rhwng yr arian a gawn a'r hyn sydd gennym i’w wario yn mynd yn fwy.

"Mae llawer o wasanaethau'n cael eu hymestyn bron i'r eithaf ond mae gennym lai o staff ac adnoddau i ddiwallu anghenion sy'n cynyddu'n barhaus.

"Mae gennym boblogaeth sy'n heneiddio a bydd angen gofal ar fwy a mwy o bobl naill ai yn eu cartrefi eu hunain neu mewn cartrefi preswyl/nyrsio.

“Rydym yn ddinas sy'n tyfu ac mae'n hanfodol ar gyfer creu swyddi a'r economi leol, ond mae'n golygu mwy o blant a mwy o leoedd mewn ysgolion.

"Mae mwy a mwy o blant ag anghenion cymhleth yn trosglwyddo i fod yn oedolion ac mae angen cymorth a gofal parhaus arnynt, am weddill eu hoes yn ôl pob tebyg.

"Mae'r dreth gyngor yn cyfrannu llai na chwarter tuag at gyfanswm y gyllideb gyfan, a faint bynnag nad ydym am ei wneud, bydd yn rhaid i ni ystyried ei chodi'n sylweddol. Ar hyn o bryd, mae gan Gasnewydd y dreth gyngor sydd ail isaf yng Nghymru a hyd yn oed â chynnydd arfaethedig o 6.95 y cant, sydd gyfwerth â £1.40 ychwanegol yr wythnos i eiddo Band D, mae disgwyl i ni barhau i fod yn yr un safle.

“Er bod toriadau wedi'u gwneud ledled y sector cyhoeddus does dim dwywaith mai awdurdodau lleol sy'n cario'r baich. Rydym eisoes wedi gwneud arbedion ac effeithlonrwydd sylweddol – £45 miliwn dros y pum mlynedd diwethaf, ond nid yw’n ymddangos bod y galw am ostwng yn y dyfodol. Mae'n rhaid dod o hyd i fwy fyth o arbedion 'newydd' - o leiaf £33 miliwn erbyn 2023.

"Yr her fwyaf yw ein bod eisiau gwneud mwy na dim ond darparu'r gwasanaethau sylfaenol y mae'n rhaid i ni eu darparu yn ôl y gyfraith gan ein bod am sicrhau bod Casnewydd yn lle deniadol i fyw, a thrwy hynny, ddenu cyflogwyr a chreu swyddi." Dyna pam y mae'n rhaid i ni hefyd wneud yn siŵr ein bod yn buddsoddi mewn ffordd strategol."

Mae cynigion ar gyfer 2019-20 ar gael i’w gweld yn www.newport.gov.uk/budget lle gallwch hefyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth ynglŷn ag o ble mae cyllideb y cyngor yn dod a'r her gyllidebol gyffredinol.

Cynhelir yr ymgynghoriad cyhoeddus tan 30 Ionawr 2019 ac wedyn caiff yr holl ymatebion eu hystyried gan y cabinet yn ei gyfarfod ym mis Chwefror.

Gan fod y cyngor wedi ymrwymo i fod yn agored a thryloyw, bydd modd gweld holl benderfyniadau penaethiaid gwasanaeth ac aelodau cabinet, er na chynhelir ymgynghoriad llawn ar y rhain.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.