Newyddion

Gwaith yn parhau i atgyweirio Pont Gludo Casnewydd

Wedi ei bostio ar Thursday 23rd August 2018

Pont Gludo Casnewydd

Oherwydd nam technegol, bu raid i Gyngor Dinas Casnewydd atal y cyhoedd rhag defnyddio croesfannau gondola y Bont Gludo.

Rhagwelir y bydd y gwaith i atgyweirio’r nam ar y bont, sy’n fwy na 112 oed, yn cymryd rhyw tair wythnos.

Yn y cyfamser, caiff ymwelwyr gerdded ar hyd y rhan uchaf o’r strwythur eiconig o hyd a bydd y gost ond yn £1.50 i oedolion ac yn £1 i blant.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd y Cynghorydd Debbie Wilcox fod y nam technegol wedi dangos pa mor angenrheidiol oedd hi i’r Cyngor godi arian i barhau i gynnal y bont ar ôl rownd gyntaf lwyddiannus mewn cais am arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a ddyfarnodd £1 filiwn ar gyfer y project.

Mae’r Cyngor a Chyfeillion y Bont, sy’n elusen gofrestredig, yn trefnu digwyddiadau yn y misoedd nesaf i helpu i godi arian.

“Mae pawb yn gwybod bod Pont Gludo Casnewydd yn eicon ac yn un o strwythurau mwyaf eiconig Casnewydd ac yn wir, Cymru.

“Rydyn ni wedi ennill y rownd gyntaf o gyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, mae angen mwy o help arnon ni i ddangos i’r gronfa bod cefnogaeth i ni gadw’r bont mewn cyflwr da,” dywedodd y Cynghorydd Wilcox.

Bydd arian a gaiff ei godi yn mynd at atgyweirio’r gondola Fictoraidd a ddefnyddir i gludo pobl a cherbydau dros yr Afon Wysg a chostau parhaus cynnal a chadw’r bont 112 oed.

Dywedodd y Cynghorydd Deb Harvey, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden: “Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw’r Bont Gludo i bobl nid yng Nghasnewydd yn unig ond ledled y byd ac rydyn ni’n lansio beth sydd yn ei hanfod yn gynllun codi arian torfol er mwyn sicrhau y bydd yn dal i sefyll ar lannau'r Afon Wysg am genedlaethau i ddod.

“Mae hon yn rhan o’n hanes a byddai’n wych pe byddai pawb yn teimlo mai eu Pont Gludo nhw yw hon hefyd, a phe bai gan bawb ran i’w chwarae yn ei dyfodol. Byddem wrth ein boddau yn gweld digwyddiadau codi arian mewn ysgolion a chan fusnesau lleol yn ogystal â chyfraniadau gan bobl.

“Mae angen i ni ddangos i Gronfa Dreftadaeth y Loteri nad yw’n gwastraffu ei buddsoddiad a’n bod ni’n chwarae ein rhan i godi’r arian.”

Mae rhagor o fanylion i unrhyw un sydd eisiau gwneud cyfraniad, dim ots pa mor fach, yma: http://www.newport.gov.uk/heritage/Transporter-Bridge/Transporter-Bridge.aspx

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.